Rhagfyr 12fed – ‘Cenedl Wedi ei Rhannu’
Mae Duw yn dewis Dafydd yn frenin yn lle Saul, ac felly byddai’n rhesymol med dwl bod ei frenhiniaeth ar seiliau cadarn ac yn amser o heddwch. Ond – ie, mae sawl ‘ond’ yn hanes cenedl Israel – nid yw Saul am ildio’i goron i’r bugail. Mae’n mynd yn ymgiprys rhwng Saul a Dafydd s threuliodd Dafydd ran helaeth o’i amser ar herw yn ffoi oddi wrth Saul, a hyd yn oed oddi wrth ei fab ei hun, Absalom. Mae Dafydd yn llwyddiannus fel rhyfelwr ac mae hefyd yn arweinydd da pan mae’n ymddwyn fel brenin, yn arwain y bobl ac yn ufuddhau i Dduw. Ond…ie, ‘ond’ arall eto.
Mae Dafydd yn cofnodi llawer o’i hynt a’i helynt yn y Salmau lle mae’n galw ar Dduw i’w waredu rhag ei elynion, yn cydnabod ei ddibyniaeth lwyr ar Dduw, ac yn gofyn i Dduw faddau ei bechodau. Yn y caneuon hyn fe welwn ei fod yn wir yn caru Duw ac am ei wasanaethu, ond fel pob dyn, mae Dafydd yn feidrol a ffaeledig. Mae Duw yn maddau iddo ond mae canlyniadau i’w bechodau, iddo ef yn bersonol, ac i’w deulu a’r genedl.
Mae’r olyniaeth yn bwysig iawn i bob brenin, ond ni chafodd Dafydd blant gan Michal, ei wraig, merch Saul. Bu farw’r plentyn cyntaf gafodd gan Bathseba, ond yna ganwyd Solomon a ddaeth yn frenin ar ei ôl. Ac er iddo adeiladu’r deml yn Jerusalem, roedd Solomon yn berson balch, ac fe drodd i ffwrdd oddi wrth Dduw.
Ar ôl amser Solomon mae Israel yn gwahanu’n ddwy deyrnas: Israel yn y gogledd a Jwda yn y de. Nid oedd yr holl ymgiprys yma’n gosod esiampl dda i’r cenhedloedd o’u cwmpas. Pwy fyddai eisiau bod fel nhw, yn ymladd ac yn anghytuno trwy’r amser? A beth am eu Duw? Onid yw ef yn gallu cael trefn ar ei bobl?
Mae bywydau ac ymddygiad Cristnogion yn bwysig am fod pobl o’r tu allan yn ein gwylio’n ofalus. Ond hyd yn oed pan nad ydym yn ymddwyn fel y dylem, nid yw hynny’n effeithio ar gynlluniau Duw. Y bobl ac nid Duw sy’n dioddef; mae Duw yn sicr o lwyddo a dwyn ei gynlluniau i ben er ein gwaethaf. A chynllun mawr Duw oedd geni Iesu, o linach Dafydd.