3. Dydd Llun
Mathew 21:12–22; Marc 11:12–19; Luc 19:45-48; Ioan 2:13-22.
Ar ôl ei ymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, mae Iesu’n dychwelyd i Fethania (Marc 11:11), gan letya, mae’n debyg, yng nghartref Mair, Martha a Lasarus (Ioan 12:1-2).
Ar y dydd Llun mae’n dod yn ôl i Jerwsalem ac yn mynd i’r deml. Tŷ gweddi (Mathew 21:13; gan ddyfynnu Eseia 56:7 a Jeremeia 7:11) yw’r deml i fod – hynny yw, lle i addoli Duw sanctaidd mewn parchedig ofn. Ond beth mae Iesu’n ei weld yno? Mae wedi ei throi’n farchnad fawr – er lles ariannol yr awdurdodau crefyddol, mae’n siŵr. Ac ni fedr Iesu ymatal rhag ymateb i’r sarhad hwn ar Dduw: bwriodd allan bawb oedd yn prynu ac yn gwerthu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod (Mathew 21:12).
O weld yr ymosod ar fasnach y deml, sylwi ar wyrthiau iacháu Iesu, a chlywed y plant yn gweiddi ‘Hosanna i Fab Dafydd!’ (Mathew 21:15), dechreua arweinwyr yr Iddewon geisio ffordd i’w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn (Marc 11:18), ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau (Luc 19:48).
Cawn hanes am Iesu’n glanhau’r deml hefyd ar ddechrau ei weinidogaeth (Ioan 2:13-22). Nid camgymeriad yw cynnwys y ddau adroddiad. I’r gwrthwyneb: dysgwn nad oes dim wedi newid. Mae sefydliad crefyddol yr Iddewon yr un mor llygredig er gwaethaf gweinidogaeth bwerus Mab Duw yn eu plith am dair blynedd.
Mae Iesu eisoes wedi tanlinellu’r gwirionedd trist hwn yn gynt ar y bore Llun wrth felltithio ffigysbren oherwydd ei diffyg ffrwyth (Marc 11:12-14). Dyma ddarlun o gyflwr ysbrydol diffrwyth yr Iddewon – er holl fendithion Duw – a’r farn ddwyfol a syrthia ar y genedl (gweler Luc 13:6-9).
Ond er bod y sefydliad crefyddol yn gwrthod Iesu, mae rhai o’r Cenhedloedd yn awyddus i ddod i gysylltiad personol ag ef: Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid. Daeth y rhain at Philip . . . a gofyn iddo, ‘Syr, fe hoffem weld Iesu’ (Ioan 12:20-21).
Ni wyddom i sicrwydd ai ar y dydd Llun neu ar y dydd Mawrth y gwnaethant eu cais. Yr hyn sy’n bwysig yw fod Iesu’n ymateb drwy ddatgelu gwirionedd gwerthfawr: ‘Y mae’r awr wedi dod,’ meddai, ‘i Fab y Dyn gael ei ogoneddu’ (Ioan 12:23). Daw’r gogoneddu hwn drwy ei farwolaeth. Bydd fel gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear ac yn marw – ond wedyn yn dwyn llawer o ffrwyth (Ioan 12:24). Hynny yw, drwy farwolaeth Iesu Grist y daw bendithion iachawdwriaeth. A bydd y bendithion yn gorlifo i laweroedd – fel y ‘Groegiaid’ hyn – ymhlith y Cenhedloedd.