Rhagfyr 4ydd – ‘Fe Drefnwyd Ffordd’
Mae carolau plygain yn rhan bwysig o ddathliadau’r Nadolig yng Nghymru. Mae neges nifer fawr ohonynt yn dechrau ganrifoedd cyn geni Iesu Grist ac yn ein dwyn yn ôl i’r dechreuad pan greodd Duw y nefoedd a’r ddaear a phan dwyllwyd Adda ac Efa gan y sarff yng Ngardd Eden. Mae cwymp y ddau yno wedi cael effaith ofnadwy ar ddynoliaeth – neu ‘hil syrthiedig Adda’ fel mae un o awduron y carolau yn ein galw – byth ers hynny. Ond nid dyna’r diwedd. Fel mae carol arall yn dweud, ‘Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd, Duw osododd Iesu’n Iawn’. A’r Iesu hwn, y Gair a ddaeth yn gnawd, yw’r unig Un a all wneud yn iawn yr hyn a dorrwyd yn Eden, ac achub dynoliaeth. Ef yw ‘had y wraig’ y cyfeiriwyd ato yn Genesis.
Mae carol arall hefyd sy’n sôn am y ffordd a drefnwyd cyn y dechreuad, cyn y creu, i ‘achub gwael golledig euog ddyn’:
Cyn bod daear, dyn, nac angel,
Clwyf, na chwymp, y Duw goruchel
Blaniodd ffordd, drwy gyngor dirgel,
I dawel godi dyn;
A phan oedd dyn heb un ddihangfa,
Yng ngharchar deddf, mewn ing a gwasgfa,
Datguddiwyd cwr y plan i Adda,
Gan y Jehofa’i hun,
Sef pan gyhoeddwyd gynta
Y Frwydr fawr Calfaria.
Y man ysigwyd pen y ddraig,
Gan had y wraig, sef Efa.
Dyma’r Un a drefnwyd gan Dduw fel unig obaith dynol-ryw; yr unig obaith ddoe, heddiw ac yfory.