7. Dydd Gwener
Mathew 27:1-61; Marc 15:1-47; Luc 23:1-56; Ioan 18:28 – 19:42.
Ystyr ‘croglith’ yw’r darn o’r Beibl – y ‘llith’ – sydd i’w ddarllen mewn gwasanaeth Anglicanaidd ar y dydd Gwener cyn Sul y Pasg, i gofio am y ‘grog’, sef y ‘groes’. Cofnoda’r Beibl ddigwyddiadau difrifol ‘Gwener y Groglith’ yn fanwl:
- Iesu gerbron Pilat, Herod, a Pilat eto.
- Hunanladdiad Jwdas.
- Pilat yn rhyddhau Barabbas ac yn dedfrydu Iesu i farwolaeth.
- Milwyr yn gwatwar a phoenydio Iesu.
- Croeshoelio Iesu.
- Geiriau Iesu ar y groes; a gobaith i’r lleidr wrth ei ymyl.
- Marwolaeth Iesu, a thrywanu ei ystlys gan filwr.
- Tywyllwch, rhwygo llen y deml, daeargryn, agor beddau.
- Joseff o Arimathea a Nicodemus yn claddu corff Iesu.
Mae’r hanes hwn yn llawn dwyster y tu hwnt i amgyffred dynol. Mab Duw yn cael ei gyhuddo a’i ladd ar gam. Mab Duw yn dioddef poenau erchyll yn ei gorff, yn cael ei watwar a’i wawdio. Ac yn fwy na dim arall, Mab Duw yn cael ei wneud yn bechod, yn ei natur ddynol yn cael ei wahanu oddi wrth ei Dad, ac yn profi hyd yr eithaf gosb ddwyfol ar bechod. Yn wyneb y pethau hyn mae rhywun yn petruso rhag dweud rhagor. Digon, felly, fydd myfyrio ar ychydig o adnodau o Air Duw:
Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i’w ffordd ei hun; a rhoes yr Arglwydd arno ef ein beiau ni i gyd (Eseia 53:4-6).
Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid (Rhufeiniaid 5:8).
Canys yr hwn [Crist] nid adnabu bechod, a wnaeth efe [y Tad] yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef (2 Corinthiaid 5:21; William Morgan).
Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â’n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd (1 Pedr 2:24).
Ac yng ngoleuni hyn i gyd, cofiwn hefyd rai o eiriau Williams Pantycelyn: