Rhagfyr 7fed – ‘Rhwng Duw a Dyn’
Ar ôl dyddiau Abraham mae Duw yn bendithio’i ddisgynyddion, yr Israeliaid, gan eu gwneud yn fodd i ddwyn ei fwriadau ef ymlaen trwy’r cenedlaethau. Yn hanes Joseff yn yr Aifft lle roedd Duw wedi ei fendithio’n helaeth, mae’n ymddangos bod y genedl wedi cael cartref delfrydol, ond nid yr Aifft oedd y wlad roedd Duw wedi ei haddo i Abraham. Ac fel roedd yr Israeliaid ar ôl marw Joseff wedi anghofio daioni Duw tuag atyn nhw, nid yw brenin newydd yr Aifft yn gwybod am y gwaith da roedd Joseff wedi ei wneud dros ei deyrnas.
Mae’r Israeliaid yn cael eu hysgwyd o’u hawddfyd wrth i’w gwaith a’u bywyd fynd yn anoddach. Ond er eu bod nhw wedi anghofio Duw, nid yw Duw yn eu hanghofio nhw, ac mae’n dewis un o’u plith i’w harwain. Moses, er ei holl feiau, fydd yn gyfryngwr rhwng Duw a’r bobl.
I ryw raddau mae Moses yn deip, neu’n rhaglun, o Iesu Grist ei hun; ond dim ond dyn yw Moses ac nid yw’n gallu rhyddhau’r bobl ar ei ben ei hun. Nid yw hanes ffoi o’r Aifft fel rhyw ffilm antur lle mae un dyn trwy ei ddewrder a’i ddyfeisgarwch yn llwyddo i ryddhau cenedl gyfan. Ni allai Moses wneud hynny yn fwy nag y gallwn ni ein rhyddhau ein hunain oddi wrth gaethiwed pechod trwy ein hymdrechion ein hunain. Mae’n hynny’n rhywbeth sy’n llawer rhy fawr i ni ei wneud; mae angen rhywun mwy i wneud hynny.
Duw sydd am ryddhau’r bobl, Yr wyf wedi dod i’w gwaredu o law’r Eifftiaid, a’u harwain o’r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang. (Exodus 3:7)
Duw a alwodd Moses i’w harwain: Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o’r Aifft. (Exodus 3:10).
A Duw sy’n trefnu’r ffordd …lladdwch oen y Pasg…a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws… Bydd yr ARGLWYDD yn tramwyo drwy’r Aifft ac yn taro’r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i’r Dinistrydd ddod i mewn i’ch tai i’ch difa. (Exodus 12:21-23)
Yma, pan fo angen ei bobl ar ei fwyaf, mae Duw yn sefydlu’r Pasg lle mae’r bobl i ddarparu oen di-nam a thaenu ei waed dros eu cartrefi i’w cadw’n ddiogel. Ac yn y dathliad cyntaf hwn mae Duw nid yn unig yn ateb anghenion daearol ei bobl yn yr Aifft, ond hefyd yn dangos yn glir mai trwy waed ‘Oen Duw’, Iesu Grist, yn unig y mae ateb i anghenion ei bobl ym mhob man ym mhob oes. Crist yw’r unig Un a all ryddhau a chadw ei bobl.
Efallai ei bod hi’n swnio braidd yn rhyfedd sôn am y Pasg adeg y Nadolig, ond dyw hi ddim. Y Pasg sy’n rhoi ystyr i’r Nadolig; pe na bai angen y Pasg ac aberth Iesu Grist arnom, yna fyddai dim angen y Nadolig; a phe na bai’r bedd yn wag ar ddydd Sul y Pasg, yna does dim gwahaniaeth a oedd yna faban yn y preseb neu beidio ar ddydd Nadolig.