Cyfarfod wyneb yn wyneb

Rydyn ni’n ddiolchgar i Dduw bod yr amser wedi dod i ni allu cyfarfod unwaith eto i gydaddoli!

Rydym yn cwrdd yn Neuadd y Pentref, Llanfarian am 10:30yb ac am 5:00 yh.

Dyma yw ein Newidiadau Asesiad Risg o fis Mawrth 2022:

Mygydau – rydym yn dal i argymell gwisgo mwgwd yn yr oedfaon am y tro. Nid yw hyn yn orfodol ond gofynnwn i bawb wisgo mwgwd wrth ganu.

Cadw pellter – bydd rhesi o gadeiriau lle bydd pobl yn rhydd i eistedd lle dymunant. Bydd pellter o 1.5m. rhwng y rhesi. Bydd hefyd resi o ddwy neu dair cadair ar gyfer y rhai sy’n dymuno cadw pellter.

Cofrestru – Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.

Mynd i mewn ac allan – mae pawb yn rhydd i adael yr adeilad  trwy’r allanfa agosaf gan geisio osgoi sgwrsio yn yn mynedfeydd.

Sgwrsio – mae rhyddid i unigolion benderfynu aros yn yr adeilad i sgwrsio neu adael i sgwrsio y tu allan, ond dylid ceisio cadw’r allanfeydd yn glir.

Profion llif unffordd – rydym yn argymell y dylid cymryd prawf llif unffordd cyn mynd i blith pobl eraill.

Er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am fynychu, cysylltwch gyda ni ar ein tudalen Manylion Cyswllt.