O’r diwedd, ar ôl 40 mlynedd o grwydro yn yr anialwch mae’r Israeliaid yn cyrraedd Canaan, y wlad roedd Duw wedi ei haddo i Abraham. Yno am y 400 mlynedd nesaf, o dan arweiniad Duw trwy Josua i ddechrau ac yna cyfres o farnwyr a phroffwydi, mae’r genedl yn ymsefydlu ac yn llwyddo. 

            Ond yn rhy aml maen nhw’n mynd eu ffordd eu hunain ac yn ymbellhau oddi wrth Dduw, ac mae’r barnwyr yn gorfod eu hatgoffa o’u cyfamod gyda Duw. Neu mae’r arweinwyr yn gwneud y dewis anghywir – heb ofyn i Dduw am arweiniad – ac mae canlyniadau trychinebus yn eu gyrru’n ôl at Dduw. 

            Ond er y gwersi hyn, mae’r bobl yn dechrau anesmwytho a chwyno am eu safle ymhlith y cenhedloedd o’u cwmpas. Roedd Israel yn genedl arbennig yng ngolwg Duw, yn wahanol i holl genhedloedd eraill y ddaear. Pam? Nid yn unig am fod Duw wedi gwneud cyfamod unigryw â hi, ond am ei fod hefyd yn bwriadu bendithio holl genhedloedd y ddaear drwy anfon y Meseia ati. 

            Ond doedd hynny ddim yn ddigon da i’r bobl a dyma nhw’n mynd at Samuel, barnwr olaf Israel a phroffwyd i Dduw, gan dweud wrtho, rho inni’n awr frenin i’n barnu, yr un fath â’r holl genhedloedd. (1 Samuel 8:5)

Mae’r bobl yn ddiamynedd, ac er ei fod yn gwybod nad yw’n syniad da, mae Samuel yn mynd â’u cais at Dduw ac yn cael yr ateb, Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt… Gwrando’n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio’n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt. (1 Samuel 8:7–10).

            Iawn, dywedodd Duw, rho iddyn nhw’r hyn mae’n nhw’n gofyn amdano; ond fel mae’r ymadrodd yn dweud, byddwch yn ofalus o’r hyn rydych yn ei ddymuno. Er i Samuel roi rhestr hir o rybuddion iddyn nhw sut byddai’r brenin yn eu trin nhw a’u plant, Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. ‘Na,’ meddent, ‘y mae’n rhaid inni gael brenin, i ni fod yr un fath â’r holl genhedloedd, gyda brenin i’n barnu a’n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau. (1 Samuel 8:19-20) 

            Saul oedd brenin cyntaf Israel, ac er i’w frenhiniaeth ddechrau gyda buddugoliaethau yn erbyn ei elynion, fel roedd y bobl wedi gobeithio, nid yw’n hir cyn i bethau ddechrau dirywio ac mae ei anufudd-dod yn mynd o ddrwg i waeth. 

Ac mae Duw yn caniatáu hyn er mwyn paratoi Israel i feddwl am frenin gwell – nid brenin daearol ond y Brenin y bu’r doethion yn chwilio amdano. Ie, Brenin yr Iddewon ond hefyd Brenin brenhinoedd (Datguddiad 19:16), sef Iesu Grist ei Fab.