Roedd cenedl Israel am gael brenin i’w barnu a’u harwain i ryfel, ond pwy sy’n mynd i arwain a barnu’r brenin pan yw’n anufudd? Ar ôl cael ei wneud yn frenin mae Saul yn plesio’r bobl drwy arwain y fyddin yn fuddugoliaethus yn erbyn eu gelynion, ond yn ei fuddugoliaeth yn erbyn yr Amaleciaid mae Saul yn anufuddhau i Dduw ac o ganlyniad mae Duw yn dewis brenin arall yn ei le. 

            Dyma sut mae Luc yn disgrifio’r sefyllfa: Ar ôl hyn gofynasant am gael brenin, a rhoddodd Duw iddynt Saul fab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, am ddeugain mlynedd. Yna fe’i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’ (Actau 13:22)

            Pe baech chi’n cynnig am swydd, a fyddech chi’n hapus i gael geirda sy’n dweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’? Wrth gwrs y byddech, ac y byddech yn siŵr o gael y swydd, ac yn gwneud eich gorau glas i fodloni’r disgwyliadau.

            ‘Gŵr wrth fodd fy nghalon’. Allai unrhyw un dalu teyrnged well i Dafydd? Mae’r ymadrodd yn ein hatgoffa o’r geiriau mae Marc yn eu nodi fel geiriau Duw pan ddaeth Iesu Grist allan o’r dŵr ar ôl cael ei fedyddio gan Ioan: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” (Marc 1:11)

            Ond wedi’r cyfan, dyn oedd Dafydd, dyn meidrol a methedig a fethodd yn aml. Eto i gyd, yr oedd hefyd yn gysgod digon amlwg o Iesu Grist mewn rhai pethau, megis bugail profiadol, ymladdwr dewr a buddugoliaethus, a’i safle fel brenin mwyaf Israel.              Yn sicr roedd lle arbennig i Dafydd yn hanes Israel ac yn llinach ddynol Iesu Grist, ac felly hefyd yn hanes trefn rhagluniaeth Duw ar gyfer dynoliaeth. Ond roedd Brenin mwy o lawer na Dafydd eto i ddod – Iesu Grist, sef mab Dafydd o ran ei linach ond hefyd Mab Duw