Rhagfyr y cyntaf,  ac rydym erbyn hyn yng nghyfnod yr Adfent. Yn swyddogol, mae’r Adfent yn dechrau ar y pedwerydd dydd Sul cyn y Nadolig, ac o’r diwrnod hwnnw byddai’r Eglwys yn dechrau cyfrif y dyddiau a’r wythnosau sy’n arwain i fyny at enedigaeth Iesu Grist ym Methlehem Jwdea. 

            Ond erbyn hyn 1 Rhagfyr yw’r dyddiad bydd pobl fel arfer yn gosod eu calendrau i fyny. Wrth inni ddechrau ein calendr Adfent ni mae’n iawn ein bod yn mynd yn ôl i ddechrau’r Beibl, llyfr sy’n sôn am Iesu Grist o’i ddechrau hyd ei ddiwedd. 

            Adnod gyntaf pennod gyntaf Genesis, sef llyfr cyntaf yr Hen Destament, yw: Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear, ac mae adnod gyntaf pennod gyntaf Efengyl Ioan, un o lyfrau cyntaf y Testament Newydd, yn adleisio adnod gyntaf Genesis: Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. 

            A phwy oedd y Gair hwn oedd gyda Duw yn y dechreuad pan greodd y nefoedd a’r ddaear? Pwy oedd yr hwn y daeth pob peth drwyddo ef a hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod? Ychydig adnodau yn ddiweddarach mae Ioan yn rhoi’r ateb inni: A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. Mab Duw yw’r Gair, Iesu Grist yw’r Gair, a dathlu ei eni ef, ei ymgnawdoliad ef, rydym ni a miliynau o Gristnogion eraill ar draws y byd yn ei wneud bob Nadolig.