Mae’r Hen Destament a’r Testament Newydd yn gytûn bod y nefoedd a’r ddaear wedi eu creu trwy ac er mwyn Iesu Grist. Mae tuedd i feddwl am Iesu Grist fel person o gig a gwaed yn unig, ond mae llyfrau’r Beibl yn dangos yn glir ei fod ef hefyd yn Dduw o dragwyddoldeb. 

            Yn sicr, person o gig a gwaed oedd Job, ond fel ni i gyd, roedd e’n meddwl ei fod yn bwysicach nag yr oedd, a’i fod yn haeddu triniaeth well gan Dduw. Ond mae Duw yn ei roi yn ei le: “Ble’r oeddit ti pan osodais i sylfaen i’r ddaear? Ateb, os gwyddost. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae’n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen?” (Job 38:4–6) Oeddit ti yno, Job? Oedd gennyt ti ran yn y creu?

            Mae Llyfr y Diarhebion hefyd yn cyfeirio at ran rhywun arbennig yn y creu:

                        Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, ac yna disgyn?

                        Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?

                        Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?

                        Pwy a sefydlodd holl derfynau’r ddaear?

                        Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?  (Diarhebion 30:4)

Mae’n wir mai ar ffurf cyfres o gwestiynau mae ein sylw’n cael ei dynnu ato. Ond cwestiynau rhethregol ydynt, ac os oes yna unrhyw amheuaeth pwy sydd dan sylw, unwaith eto cawn yr ateb yn Efengyl Ioan: Nid oes neb wedi esgyn i’r nef ond yr un a ddisgynnodd o’r nef, Mab y Dyn. (Ioan 3:13) 

            Y Mab unwaith eto, Mab y Dyn, Mab Duw, Ail Berson y Drindod, Iesu Grist. Ac mae’r adnodau hyn yn dangos yn glir ei fod yn Grëwr a bod hynny’n ei wneud yn un â Duw. Ac yng nghyd-destun y Nadolig lle mae’r sylw i gyd ar y baban Iesu, mae geiriau carol John Evans yn ein hatgoffa ei fod ef yn Dduw nerthol ac mai ef sy’n cynnal y bydysawd, hyd yn oed pan oedd yn faban yn y preseb:

                                    Rhyfeddod gweld y dwyfol Air

                                    Yn Dduw a dyn ym mreichiau Mair;

                                    Ym Methlem dref yn faban mud

                                    Ac yn ei law golofnau’r byd.