Wele yn y preseb tlawd

                                    Un a anwyd inni’n Frawd:

                                    Oen ein Duw a ddaeth i’n byd –

                                    Canwn am ei aberth drud.

            Dyma bennill cyntaf un o’r carolau y byddwn ni’n ei chanu adeg y Nadolig, ond pam mae’r baban Iesu yn y preseb? Pam oedd yn rhaid i Fab Duw ddod i’r byd? Pam gafodd ‘Rhoddwr bod’, y ‘Cynhaliwr helaeth’ a ‘Rheolwr pob peth sydd’ ei eni yn faban gwan? 

            Mae’r Beibl yn cyhoeddi’n bendant mai Iesu Grist yw Crëwr y bydysawd. Cymerwch, er enghraifft, y geiriau hyn o’r llythyr at y Colosiaid:

            Hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. (Colosiaid 1:15–17)

            Dyma Dduw hollalluog a nerthol dros ben, ond fe ddaeth i’r byd nid fel Duw goruwchnaturiol, nac fel brenin ar ei orsedd, ond fel baban. Ond pam? Pam na allai ef fwynhau ei greadigaeth? Beth ddigwyddodd i achosi iddo roi heibio’i ogoniant fel Duw yn y nefoedd a dod i’r ddaear o’i ddewis ei hun a’i eni’n faban bach? Beth aeth o’i le? 

            I ateb hyn rhaid i ni fynd yn ôl unwaith eto i ddechrau llyfr Genesis. Yno, ar ôl cael hanes creu’r bydysawd rydym yn darllen am Adda ac Efa yn byw mewn perthynas berffaith â Duw yng Ngardd Eden. Ond yn y drydedd bennod fe welwn, er bod ganddyn nhw bopeth roedd ei angen arnyn nhw, fod y ddau yn gwrando ar eiriau celwyddog y sarff a oedd ‘yn fwy cyfrwys na’r holl fwystfilod gwyllt’ ac yn eiddigeddus iawn o’u perthynas â Duw. O ganlyniad i’w hanufudd-dod torrwyd y berthynas honno. Ond trugarhaodd Duw wrth Adda ac Efa ac yn ei gondemniad o’r sarff mae’n rhoi gobaith i ddynoliaeth: “Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15)

            Yn ‘had y wraig’ felly mae gobaith dynoliaeth. Bydd y sarff yn ‘ysigo’i sawdl ef’ ond ‘bydd ef yn ysigo dy ben di’. Ond pwy yw’r had hwn? Pwy o blith disgynyddion Efa fydd yn gallu achub pobl syrthiedig?