Rhagfyr 5ed – ‘O’i Wir Fodd’
Trefnodd Duw ffordd ‘drwy gyngor dirgel, i dawel godi dyn’ oherwydd i Adda ac Efa wrando ar eiriau twyllodrus y sarff yng Ngardd Eden. Ond os oedd hyn i gyd wedi ei drefnu ‘Cyn bod daear, dyn, nac angel, Clwyf, na chwymp’, mae’n rhaid fod Iesu Grist y Mab, Ail Berson y Drindod – yr Hwn y ‘daeth pob peth i fod trwyddo ef’ – yn rhan o’r trefniant a wnaed yng ‘nghyngor Tri yn Un’. Trefniant a fyddai’n golygu maes o law y byddai’n rhaid iddo ‘fynd i’r lladdfa yn ein lle’ ar ben Calfaria.
Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn arswydo o wybod sut y byddem yn marw. Ond i Fab Duw, ‘awdur bywyd’, roedd cael ei wahanu oddi wrth ei Dad oherwydd holl bechodau dynoliaeth euog yn rhywbeth na allwn ni ei amgyffred. Ond er ein mwyn ni, er mwyn Seion, ei eglwys, roedd ef yn barod i wneud hynny: Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio neu yn beth i ddal gafael ynddo. (Philipiaid 2:6)
Ac fel mae trydydd pennill carol David Hughes, ‘Ar gyfer heddiw’r bore’, yn dweud:
Diosgodd Crist ei goron,
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion,
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog,
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er codi pen yr euog,
O’i wir fodd, o’i wir fodd.
‘O’i wir fodd’! Ystyriwch y tri gair yna am eiliad. Ohonyn nhw daw’r gair gwirfoddoli, sef bod rhywun yn ei gynnig ei hun i wneud rhywbeth nad oes raid iddo’i wneud, nac efallai ddisgwyl iddo’i wneud. Mae’r person hwnnw’n sylweddoli bod angen gwneud y dasg – er mor atgas neu beryglus yw hi – a bod neb arall ar gael, yn barod, neu’n gymwys, i’w gwneud. Ar adeg o ryfel byddai pobl fel arfer yn gwneud hynny, er mai un rheol bendant ymhlith milwyr cyffredin oedd, ‘Paid byth â gwirfoddoli!’
Ond mae’r gair ‘bodd’ yn swnio’n rhyfedd iawn fan hyn. Mae e’n iawn yng nghyd-destun ‘Fyddet ti’n hoffi dod am wyliau gyda ni i Ffrainc eleni?’ a chithau’n ateb, ‘Byddwn wrth fy modd.’ Ond ddim yng nghyd-destun ‘Fyddet ti’n hoffi cael dy wahanu oddi wrth dy Dad, dy ladd ar groesbren ac yna profi poenau uffern fel cosb am bethau nad wyt ti wedi eu gwneud?’ Pwy fyddai’n ateb, ‘Byddwn wrth fy modd’ i hynny? Wel, dyna a wnaeth Iesu Grist.