Mae hanes dynoliaeth o ddyddiau Adda ac Efa hyd amser Noa yn dangos yn glir nad mynd o flaen gofid, fel petai, oedd trefnu ffordd ‘cyn llunio’r byd’. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd drygioni’r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg (Genesis 6:5). O ganlyniad anfonodd Duw ddilyw i olchi’r drygioni hwnnw i ffwrdd. Ond trwy ei drugaredd cadwodd Duw Noa a’i deulu’n ddiogel, a thrwyddynt hwy roedd ei fwriadau da tuag at ddynoliaeth yn parhau. 

            Ymhen amser mae Duw yn galw Abram i adael ei wlad enedigol a theithio i wlad Canaan: Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu, i’r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith. Bendithiaf y rhai sy’n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy’n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear.” (Genesis 12:1-3)

            Yma mae Duw yn addo pethau mawr i Abraham ac yn y cymal olaf, ‘ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear’, i ninnau hefyd. Mae’n cadarnhau ei fod yn mynd i anfon rhywun arbennig, o linach Abraham, a fydd yn fendith i’r holl fyd.  Ond, wrth gwrs, gan ein bod yn sôn am ddynoliaeth, nid yw pethau’n mynd yn ddidrafferth. Er bod Duw wedi addo gwneud Abraham yn genedl fawr, nid oedd pethau’n digwydd yn ddigon cyflym i’w blesio ef a Sara, ei wraig, ond o’r diwedd fe anwyd mab iddynt. 

            Fel pob rhiant, roedd Abraham a Sara yn falch iawn o Isaac eu mab. Felly pan ddywedodd Duw wrth Abraham ychydig flynyddoedd ar ôl ei eni, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm” (Genesis 23:2) roedd hi’n ymddangos bod Duw am i Abraham aberthu Isaac, ei unig fab, a rhoi diwedd ar ‘y genedl fawr’. Ond os darllenwn yn ofalus gwelwn mai prawf ar ffydd Abraham yw hyn. Yn wahanol i Adda ac Efa, mae Abraham yn ufuddhau i Dduw, ac mae Duw yn darparu aberth arall yn lle Isaac. Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” (Genesis 22:8).

            Ac yn y ddarpariaeth yma mae Duw unwaith eto’n datguddio ‘cwr y plan’ ‘i dawel godi dyn’, gan fod yr oen a ddarparwyd yn rhaglun o Iesu Grist, unig anedig annwyl Fab Duw, yr Oen a fyddai’n ‘mynd i’r lladdfa yn ein lle’ gan nad ataliodd ei Dad ef ei law. Doedd yna ddim oen y poethoffrwm arall i’w gael.