Mae angen trefn ar bobl sy’n gadael eu cartrefi ar frys ac yn colli pethau cyffredin, cyfarwydd. Wrth adael yr Aifft mae’r Israeliaid ar goll, heb sicrwydd na sefydlogrwydd i’w bywydau. Ac mae hyd yn oed bendithion rhyfeddol Duw sy’n eu cadw’n fyw yn cael eu cymryd yn ganiataol ac yn dod yn destun cwyno a grwgnach. 

            Mae’r gwaith o gadw trefn ar bobl yn mynd yn drech na Moses ac mae’n galw ar y bobl i benodi barnwyr o’u plith a fyddai’n “ddiduedd mewn barn” ac yn gwrando “ar y distadl yn ogystal â’r pwysig” (Deuteronomium 1:17) gan fod drygioni’n dal i ffynnu beth bynnag yw amgylchiadau bywyd. 

            Cyfreithiau dynion y mae’r barnwyr yn eu gweinyddu, ond ar Fynydd Sinai mae Duw yn gwneud cyfamod â’r bobl ac yn rhoi’r Deg Gorchymyn iddynt a fydd, o’u cadw, yn cadarnhau eu perthynas arbennig â Duw: Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi’r ddaear i gyd. Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd. (Exodus 19:5-6) 

            Trwy Abraham roedd cenedl Israel eisoes yn bobl ddewisedig Duw, ond nawr mae Duw yn ei rwymo ei hun iddynt. Mae’r bobl yn ymateb, Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD. (Exodus 19:8) Ond er iddynt weld ac ofni presenoldeb Duw yn y mwg a’r taranau a’r mellt ar Fynydd Sinai, byr iawn oedd eu hymrwymiad. 

            Treuliodd Moses 40 niwrnod ar Fynydd Sinai gyda Duw, yn derbyn y Gyfraith a fyddai’n bendithio’r bobl ymhell y tu hwnt i unrhyw genedl arall ar wyneb y ddaear; ond yn ystod yr amser hwnnw anghofiodd y bobl eu cyfamod â Duw a throi oddi wrtho. Cymaint oedd ei siom a’i ddicter pan ddisgynnodd o ben y mynydd, gwylltiodd Moses, a thaflu’r llechau o’i ddwylo a’u torri’n deilchion wrth droed y mynydd. (Exodus 32:19)

            A phan mae Duw yn sôn am ddifa’r bobl – fel y gwnaeth yn nyddiau Noa – am eu bod wedi cilio’n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt (Exodus 32:8), mae Moses yn eiriol drostynt ac yn ymbil ar Dduw i gofio Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d’enw dy hun a dweud, ‘Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.’ Yna bu’n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i’w bobl. (Exodus 32:13-14)

            I nifer o bobl mae’r hanes hwn yn crynhoi’r Hen Destament – pobl anufudd ac anniolchgar, a Duw sy’n eu cosbi am eu pechod. Ac yn y canol rhyngddynt mae un dyn yn sefyll i fyny ac yn ceisio perswadio Duw i newid ei feddwl. Onid dyma ddarlun o Iesu Grist yn eiriol dros ei bobl, yn gofyn i’w Dad faddau i rai ystyfnig a gwrthryfelgar? Y gwahaniaeth mawr, wrth gwrs, yw mai Duw ei hun, yn ei ras. sydd wedi anfon ei Fab i wneud hyn. Ac mae’n barod iawn i wrando ar ei Fab ei hun. 

Ie, hyd yn oed ar Fynydd Sinai mae gennym ddarlun trawiadol o Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd.