Rhagfyr 9fed – ‘Wedi Ei Eni Dan y Gyfraith’
Efallai ei bod hi’n anodd inni weld Iesu Grist yn glir ar Fynydd Sinai yng nghanol mwg a tharanau a mellt yr holl gyfreithiau. Ond nid rhywbeth tywyll a negyddol oedd y Gyfraith, ond yn hytrach rhywbeth cadarnhaol oedd yn rhan o’r cyfamod unigryw rhwng Duw a chenedl Israel. Roedd y Gyfraith yn adlewyrchu ei gymeriad, yn dangos ei fod yn Dduw sanctaidd, yn Dduw cyfiawn, ac yn Dduw doeth. Ac os Un felly yw’r Tad, Un felly hefyd yw’r Mab, ail Berson y Drindod.
Roedd pechod yn bodoli cyn y Gyfraith – dyna pam roedd angen barnwyr i gynorthwyo Moses – ond mae yma yn awr rywbeth mwy: Y mae’n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif. Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o’r Dyn oedd i ddod. (Rhufeiniaid 5:13-14) A Christ yw’r ‘Dyn oedd i ddod’.
Ac am ei bod hi’n amhosibl i bobl bechadurus gadw’r Gyfraith, roedd yn rhaid wrth nifer o aberthau o wahanol anifeiliaid er mwyn cael cymod gyda Duw a gwneud yn iawn am eu pechodau. A dyna pam mae angen Crist arnom ninnau er mwyn ein cymodi ni â Duw. Crist yw’r Iawn.
Mae dyfodiad Crist a’i aberth ef yn dileu’r aberthau roedd yn rhaid i’r Israeliaid eu hoffrymu, fel mae’r garol ‘Ar gyfer heddiw’r bore’ yn ein hatgoffa:
Gorffwyswch bellach, Lefiaid,
Cafwyd iawn, cafwyd iawn,
Nid rhaid wrth anifeiliaid,
Cafwyd iawn;
Diflannu a wnaeth y cysgod,
Mae’r sylwedd wedi dyfod,
Nid rhaid wrth ŵyn na buchod,
Cafwyd iawn, cafwyd iawn,
Na theirw na thurturod,
Cafwyd iawn.
Roedd y Gyfraith felly i baratoi’r Israeliaid ar gyfer dyfodiad Crist, i’w cyfeirio nhw ato ef: Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y Gyfraith. (Galatiaid 4:4) Ac nid oedd Iesu Grist yn gweld gelyniaeth rhwng y Gyfraith a’r Efengyl: Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu’r Gyfraith na’r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.” (Mathew 5:17)
Beth oedd y cyflawni hwn yn ei olygu i Grist? Roedd wedi ei eni dan y Gyfraith, ac er ei fod yn hollol ddi-fai, wrth ddwyn ein pechodau ni fe’i cafwyd yn euog dan y Gyfraith. Oherwydd ein pechodau ni roedd y Gyfraith a dderbyniodd Moses oddi wrth Dduw ar fynydd Sinai yn condemnio Iesu Grist. Ac roedd Iesu yn barod, ‘o’i wir fodd’, i gymryd arno ffurf ddynol a derbyn y gosb rydym ni yn ei haeddu.
“Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. (Philipiaid 2:6-8)