Mathew 26:17–75; Marc 14:12-72; Luc 22:7-71; Ioan 13:1 – 18:27

Mae’r dydd Iau yn llawn digwyddiadau pwysig iawn:

  • Paratoi gwledd y Pasg. 
  • Wrth ddathlu gwledd y Pasg yn yr oruwchystafell, mae Iesu’n
    • golchi traed ei ddisgyblion
    • eu dysgu amdano’i hun a’r Ysbryd Glân
    • rhagfynegi brad Jwdas a gwadiad Pedr
    • sefydlu Swper yr Arglwydd
    • gweddïo ar ei Dad
  • Iesu eto’n gweddïo’n ddwys yn Gethsemane.
  • Bradychu a dal Iesu, ei watwar a’i guro.                  
  • Iesu gerbron Annas, ac yna gerbron Caiaffas a’r Sanhedrin.
  • Pedr yn gwadu Iesu.

Yr hyn sy’n sefyll allan yw’r ffaith fod Iesu Grist yn gwybod i’r dim beth sy’n mynd i ddigwydd. Mae’n gwybod ymlaen llaw y trefniadau ar gyfer yr oruwchystafell lle cynhelir gwledd y Pasg (Marc 14:12-16). Mae’n gwybod y bydd Jwdas yn ei fradychu a Pedr yn ei wadu. Ac mae’n gwybod fod yn rhaid iddo gael ei ddal a’i ladd. Heb y pethau yma, sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy’n dweud mai fel hyn y mae’n rhaid iddi ddigwydd? (Mathew 26:54). 

Er hyn i gyd, y peth rhyfeddol yw fod Iesu’n barod i ufuddhau i’w Dad er mwyn cwblhau cynllun iachawdwriaeth: Fy Nhad, os yw’n bosibl, boed i’r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di (Mathew 26:39). Ac yn y man  bydd y Tad yn ei anrhydeddu oherwydd ei ufudd-dod: fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin . . . ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad (Philipiaid 2:8-11).   

Ni allwn byth amgyffred teimladau Iesu Grist yn wyneb dwyster digwyddiadau dydd Iau. Ond bydd yn dda myfyrio ar eiriau William Lewis, Llangloffan: