Mathew 26:1-5, 14-16; Marc 14:1-2, 10-11; Luc 22:1-6; Ioan 13:21-30

Wedi diwrnod prysur o wynebu gwestiynau pigog yr arweinwyr crefyddol, dysgu’r torfeydd, a goleuo’r disgyblion ynglŷn â digwyddiadau’r dyfodol, gellid disgwyl y byddai Iesu’n dychwelyd i Fethania i gael gorffwys a’i baratoi ei hun ar gyfer y dyddiau arswydus sydd o’i flaen. Ond nid dyna sy’n digwydd: Yn ystod y dydd byddai’n dysgu yn y deml, ond byddai’n mynd allan ac yn treulio’r nos ar y mynydd a elwir Olewydd. Yn y bore bach deuai’r holl bobl ato yn y deml i wrando arno (Luc 21:37-38).

Mae’n ddigon posibl i Iesu Grist ddysgu yn y deml nid yn unig ar y dydd Mawrth ond ar y dydd Mercher hefyd. Dyna awgrym Luc 22:53, lle mae Iesu’n sôn iddo fod gyda chwi beunydd yn y deml yn ystod yr wythnos. Er nad yw’r Efengylau’n rhoi sylw penodol i ddigwyddiadau’r dydd Mercher, nodwn ddau beth o bwys:

Yn gyntaf, mae Iesu’n parhau i baratoi’r disgyblion ar gyfer y dyddiau nesaf. Mae eisoes wedi rhagfynegi ei farwolaeth a’i atgyfodiad dair gwaith cyn cyrraedd Jerwsalem (Mathew 16:21–28; 17:22-23; 20:17–19). Yn awr, rhag iddynt gael eu dychryn a’u digalonni gan yr hyn sydd ar ddigwydd, ceisia egluro cynllun Duw eto: Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i’w groeshoelio (Mathew 26:2). Rhaid i drefn achubol Duw gael ei chwblhau – a hynny ar fyrder bellach.

Yn ail, mae eraill yn brysur gyda’u cynllwynion. Bu bwriad i gael gwared â Iesu ers i’r awdurdodau glywed iddo godi Lasarus o’r bedd (Ioan 11:47–53). Mae’r ymdaith i mewn i Jerwsalem, glanhau’r deml, a’r dysgu heriol wedi eu cadarnhau yn eu penderfyniad. A daw eu cyfle, o bosibl ar y nos Fawrth neu’n fwy tebyg ar y dydd Mercher: Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y’i gelwir, yn agosáu. Yr oedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn ceisio modd i’w ladd . . . Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o’r Deuddeg. Aeth ef a thrafod gyda’r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu’r deml sut i fradychu Iesu iddynt. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i’w fradychu ef iddynt heb i’r dyrfa wybod (Luc 22:1–6).

Beth bynnag yw ei gymhellion, mae’n amlwg nad yw Jwdas wedi gwir gredu yn Iesu fel Mab Duw a Meseia. Mae rhybudd yma i ni: os gall un fradychu Iesu er treulio blynyddoedd yn ei gwmni, rhaid i ninnau ofalu fod ein perthynas ni ag ef yn gywir a sicr. Ond da cofio nad yw hyd yn oed brad Jwdas tu allan i gynllun Duw. Fel yr eglura Iesu, mae’n rhaid i’r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae’r un sy’n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f’erbyn’ (Ioan 13:18, gan ddyfynnu Salm 41:9).