Dewch am dro yn dilyn Llwybr y Seren ym Mhenrhyncoch! Chwiliwch am gymeriadau’r Nadolig cyntaf, a chael hwyl yn gwneud y gweithgareddau i’ch hatgoffa pam fod y Nadolig yn adeg mor arbennig! Click here for English
Ar byst lampiau, ffensys a choed ar hyd y llwybr, chwiliwch am bosteri gyda chymeriadau’r geni, cwestiynau a gweithgareddau hwyliog sy’n ein hatgoffa pam fod genedigaeth Iesu mor arbennig! Mae llythyren ar bob poster – rhai coch Cymraeg a rhai glas Saesneg – sy’n gwneud brawddeg fer. Anfonwch y frawddeg atom i ennill gwobr!
Mae Llwybr y Seren yn dechrau wrth brif fynedfa Ysgol Penrhyncoch. Edrychwch ar y map islaw i weld y llwybr. Cliciwch arno i’w wneud yn fwy.
E-bostiwch y frawddeg atom neu os ydych chi angen help – holi@egefaber.org
Come for a walk following our Star Trail in Penrhyncoch? Find characters from the first Christmas and have fun doing the activities to remind you why Christmas is such a special time!
On lamp posts, fences and trees around the route, look out for our posters with nativity characters, questions and activities to get you thinking why Jesus’ birth is so special. Each poster has a letter on it – red Welsh ones and blue English one- which form a short sentence. Send the sentence to us to claim a prize!
Our Star trail begins at the main entrance to Ysgol Penrhyncoch. Look at the map below to see the route. Click on it to enlarge it.
Let us know if you find the sentence, or if you need help – email us at holi@egefaber.org
