Rhagfyr 13eg – ‘Immanuel’
Wel, beth mae Duw yn mynd i’w wneud nawr? Beth am ei addewid i Abraham, ‘ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear’? Sut mae ef yn mynd i wneud hyn a’r genedl oedd i fod i’w gyflawni ar chwâl ac yn destun sbort i’r cenhedloedd?
Rhwygwyd y genedl yn ddwy ar ôl amser Solomon: Israel yn y gogledd a Jwda yn y de. Roedd brenhinoedd y gogledd i gyd yn ‘gwneud drwg yng ngolwg yr Arglwydd’ ac er bod nifer o rai tebyg yn Jwda, roedd yno hefyd rai a ‘oedd yn uniawn yng ngolwg yr Arglwydd’. Ffurfiodd rhai gynghreiriau gwael gyda brenhinoedd cryfach a chafodd eraill eu twyllo o’u cyfoeth a’u tiroedd. Mae nifer ohonynt yn llwgr ac yn cam-drin y bobl heb fod yn ‘ddiduedd mewn barn’ nac yn gwrando ‘ar y distadl yn ogystal â’r pwysig’. Ac mae llawer o’r bobl, y pwysig a’r distadl, yn cefnu ar Dduw ac yn addoli eilunod.
Beth oedd ymateb Duw i hyn? Anfon barn ar y bobl fel yr oedd wedi ei wneud ac wedi bygwth ei wneud yn y gorffennol?
Er i’r bobl gael eu cosbi, fe anfonodd Duw hefyd broffwydi i’w rhybuddio a’u hannog. Ceir neges 16 o broffwydi i gyd yn yr Hen Destament, ac er bod eu proffwydoliaethau’n berthnasol i wahanol genedlaethau yn ôl eu hamser, amgylchiadau ac anghenion, mae yna linyn cyson drwyddynt. Maent yn atgoffa’r bobl o bwy ydyn nhw, fel cenedl ac fel pobl Dduw, gan dynnu eu sylw at y bendithion a gafwyd, a’r addewidion am bethau sydd i ddod yn y dyfodol agos ac ymhen amser o ganlyniad i gadw’r berthynas honno. Cynigir cysur ar adegau o galedi a gormes a’u hatgoffa am gariad Duw. Ond ar yr un pryd maent yn rhybuddio’r bobl mai barn ac nid bendith fydd eu rhan os na fyddant yn edifarhau ac yn dychwelyd at Dduw.
Gellir dweud bod Duw, trwy’r proffwydi, yn galw arnyn nhw i ddefnyddio’u synnwyr cyffredin, i ddod at eu coed, a newid eu ffyrdd. Ond, fel y gwelwn yn ein dyddiau ni, anaml iawn mae pobl yn defnyddio’u synnwyr cyffredin ac yn gwneud yr hyn sy’n iawn er eu lles nhw eu hunain ac er lles eu cymdogion; roedd nifer o bobl yn parhau i wneud yr hyn oedd yn iawn yn eu golwg eu hunain.
Yng nghanol yr apêl i gofio cyfamod Duw ac edifarhau, atgoffir y bobl am yr addewid am y Meseia, yr Un arbennig y byddai Duw yn ei anfon i achub ei bobl, gorchfygu ei elynion a sefydlu ei deyrnas. Yn llyfr Eseia, mae’r proffwyd yn rhoi mwy o wybodaeth am y Meseia, gan roi enw newydd iddo sy’n ei ddwyn yn agosach at y bobl: Am hynny yr ARGLWYDD ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. (Eseia 7:14; William Morgan). Immanuel, ‘Duw gyda ni’. Nid ymhell, nid yn agos hyd yn oed, ond ‘gyda ni’.