Dros y canrifoedd ers iddynt gael eu harwain i wlad yr addewid, roedd yr Israeliaid wedi bod ymhell oddi wrth Dduw droeon lawer. Oherwydd eu hanufudd-dod a’u gwrthryfel, roedd Duw wedi tynnu ei bresenoldeb oddi wrthynt. Ond trwy’r cyfan nid oedd Duw wedi eu hanghofio nhw na’i addewidion iddynt.

            Roedd Eseia’n byw yn Jwda tua 750 mlynedd cyn geni Iesu Grist. Roedd Duw wedi galw arno i ddweud wrth y bobl mai ef oedd eu hunig obaith yn erbyn eu gelynion, nid byddinoedd brenhinoedd dieithr, ac yn sicr nid duwiau’r gwledydd hynny. Yng nghanol yr anogaethau a’r rhybuddion, mae Eseia’n proffwydo y byddai morwyn yn rhoi genedigaeth i fachgen, ei enw fyddai Immanuel, ac ef fyddai’r Meseia.

            Ond nid yw Eseia’n ei gadael hi yn y fan honno gyda dim ond mymryn bychan o gwr y llen wedi ei godi. Mae’n mynd ymlaen i ddweud mwy am yr Immanuel: ei deitlau a sut lywodraethwr fyddai, pethau pwysig iawn i bobl oedd wedi dyheu am frenin ac wedi cael eu siomi ganddynt: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe’i gelwir, ‘Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon’. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. (Eseia 9:6–7) 

            Ac er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r addewid, mae Eseia yn gorffen trwy ddweud, Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.

            Os yw Duw yn frwd dros hyn, yna bydd yn sicr o ddigwydd. A oedd angen addewid mwy pendant nag un roedd Duw o’i blaid? Byddai’r bobl yn siŵr o wrando ar Dduw nawr, gan ufuddhau a throi yn ôl ato.

            Os anogaeth oedd proffwydo’r Immanuel, roedd gan Eseia hefyd rybuddion i’r bobl. Os na fyddent yn edifarhau byddai Asyria, gwlad nerthol yn y gogledd, yn goresgyn Jwda ac yn ei gwneud yn was iddi. 

            Tua’r adeg y proffwydodd Eseia hyn yn Jwda, syrthiodd Israel, teyrnas y gogledd, i Asyria, a chaethgludwyd y bobl. Roedd Amos a Hosea wedi rhybuddio Israel fel roedd Eseia wedi rhybuddio pobl Jwda, ond gwrthod gwrando oedd ymateb teyrnasoedd y gogledd a’r de ac o fewn dwy ganrif roedd pobl Jwda hefyd yn gaeth, ym Mabilon.

            Bellach, roedd y ddwy deyrnas wedi eu chwalu a’r bobl ar wasgar. Allai pethau fod yn waeth ar bobl Dduw, a chynlluniau Duw ei hun? Ond fel y mae Salm 103:19 yn ein hatgoffa, ‘Gosododd yr Arglwydd ei orsedd yn y nefoedd, ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.’ Fel y cawn weld, ni all dim byd rwystro Duw rhag cyflawni ei ewyllys.