Am hynny, y mae Duw wedi eu traddodi, trwy chwantau eu calonnau, i gaethiwed aflendid, i’w cyrff gael eu hamharchu ganddynt hwy eu hunain. Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu’r hyn a grewyd yn lle’r Creawdwr. (Rhufeiniaid 1:24-25)

            Dyna a ddywedodd Paul wrth y Rhufeiniaid am dynged pobl oedd wedi eu rhoi eu hunain i annuwioldeb ac anghyfiawnder, a dyna hefyd yw cyflwr pobl ym mhob oes sy’n troi eu cefn ar Dduw ac yn mynd eu ffordd eu hunain. Felly yr oedd hi gyda chenedl Israel; roedd hi’n well ganddyn nhw droi at ddieithriaid am gymorth, a gofyn i eilunod am achubiaeth na galw ar eu Duw. O ganlyniad mae Duw yn eu rhoi nhw i fyny i’w dymuniadau a’u chwantau a’u rhoi yn nwylo’u gelynion. Os dyna oedd dymuniad eu calonnau, yna nid gwlad yr addewid oedd eu cartref.

            Roedd rhai a gaethgludwyd i Fabilon yn hiraethu am eu cartref, am Jerwsalem – neu Seion fel y cyfeirir ati yn Salm 137 lle disgrifir y bobl yn wylo am yr hyn maen nhw wedi ei golli. Prin yw eu cysur ym Mabilon; allan nhw ddim addoli yno fel roedden nhw’n ei wneud yn Jerwsalem. A oedd y deml yn bwysicach iddynt nag ufuddhau i Duw? Yr addoldy yn bwysicach na’r addoli? 

            Ond roedd rhai yn para’n ffyddlon i Dduw ym Mabilon. Un o’r rhain oedd Daniel, ac oherwydd ei ffyddlondeb iddo bendithiodd Duw ef a’i gynorthwyo i ddehongli breuddwydion y Brenin Nebuchadnesar. Am wneud hynny gwnaeth y brenin ef yn bennaeth ar dalaith Babilon. Ond er ei safle bwysig glynodd Daniel at ei Dduw, gan ddioddef erledigaeth a chyhuddiadau celwyddog ei elynion.

            Yn y dehongliad o freuddwyd gyntaf Nebuchadnesar datguddiodd Duw hefyd i Daniel ychydig am frenhiniaeth dragwyddol ei Fab, Iesu Grist: bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth.(Daniel 2:44-45)

            Edrych yn ôl mae’r bobl, gan ddyheu am eu hen fywydau; ond mae Duw yn edrych ymlaen. Efallai bod y genedl ymhell o’u cartref ac yn dilyn arferion a duwiau dieithr a Jerwsalem wedi cael ei dinistrio, ond mae Duw yn datgan yn glir nad yw ei fwriad ef wedi newid dim. Duw sy’n rheoli a’i ewyllys ef  – a’i addewidion – fydd yn cael eu cyflawni.