Ond sut felly roedd Duw yn mynd i gyflawni ei fwriad? Roedd wedi dweud llawer am frenhiniaeth ond sut byddai hynny’n cael ei wireddu? Neu ai dim ond geiriau gwag proffwydi oedd y cyfan i dwyllo’r bobl i wrando arnyn nhw ac ufuddhau i’r drefn? 

            Pam ddylai’r bobl gredu eto yn addewid Duw i sefydlu brenhiniaeth? Roedd y frenhiniaeth wedi cael ei sefydlu ac roedd hi wedi methu. Tri brenin yn unig oedd wedi eistedd ar yr orsedd, sef Saul, Dafydd a Solomon, cyn i’r cyfan ddisgyn yn deilchion, ac roedd ymddygiad y tri yna ymhell o fod yn esiampl i eraill. Roedd sôn am ‘sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth’ yn rhywbeth cwbl annhebygol, os nad yn amhosibl. Brenhiniaeth dragwyddol? Dewch mlaen.

            Ond mae’r ‘hyn sy’n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw’ (Luc 18:27) ac fe ddylai pobl oedd wedi bod yn dystion i weithiau rhyfeddol Duw wybod hynny. Roedd eu cyndeidiau wedi profi llawer o bethau amhosibl, ac roedd y rheini wedi eu cofnodi fel na fyddai’r bobl yn eu hanghofio; ond dyna oedd wedi digwydd. Wrth iddynt anghofio Duw, roedden nhw wedi anghofio daioni Duw.

            Yn ogystal â’r pethau amlwg, cyhoeddus, roedd Duw wedi eu gwneud, roedd hefyd wedi bod yn gweithio ‘drwy gyngor dirgel’, ar draws y canrifoedd ‘i dawel godi dyn’.

            Roedd proffwydoliaethau am y Meseia a rhagluniau ohono’n britho’r ysgrythurau ac fe ddylai’r rhai oedd wedi eu darllen neu eu clywed fod wedi gallu eu gweld fel rhan o gynllun Duw i ddiogelu ‘had y wraig’.            Un enghraifft o hynny, a fyddai wedi synnu’r Israeliad oedd wedi dioddef y gaethglud i Fabilon, oedd bod Duw wedi cynnwys Ruth yn ei gynlluniau, merch o wlad Moab – Moab o bobman! – cenedl yr oedd gelyniaeth oesol rhyngddyn nhw a’r Israeliaid. Roedd Eseia ac Amos wedi proffwydo yn eu herbyn nhw, ac eto roedd gan un ohonynt ran ym mrenhiniaeth dragwyddol Duw am fod Ruth yn hen fam-gu i’r Brenin Dafydd – ac felly yn llinach y Meseia.