Un peth yw addo ‘sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth’, ond os yw’r bobl yn byw mewn alltudiaeth, yn gaeth mewn gwlad estron, oes yna bwynt mewn cael brenin? Dros bwy fyddai’n teyrnasu?

            Treuliodd yr Israeliaid rhwng 48 a 70 mlynedd ym Mabilon tan y flwyddyn 538cc pryd, yn hollol ddirybudd, gadawodd y Brenin Cyrus iddynt ddychwelyd adref a rhoi caniatâd iddynt ailadeiladu’r deml yn Jerwsalem. Ond er eu llawenydd o adael Babilon, nid oedd eu hanawsterau drosodd. 

            Doedden nhw ddim yn genedl rydd, felly sut allen nhw ddewis a choroni brenin? Roedden nhw’n dal i gael eu rheoli gan Cyrus, ac fe allai ef neu un o’i ddisgynyddion newid ei feddwl a’u dwyn yn ôl i Fabilon, neu yn waeth, ddifa’r genedl gyfan, fel y bygythiwyd yn ddiweddarach o dan y Brenin Xerxes. 

            Ac nid oedd llawer o groeso iddyn nhw yn yr henwlad chwaith. Nid oedd y cenhedloedd o’u cwmpas yn hapus i’w gweld yn dychwelyd rhag ofn y byddai Israel yn tyfu unwaith eto i fod yn wlad gref a bygythiol. O ganlyniad, rhwystrwyd y gwaith o adeiladu’r deml am flynyddoedd gan eu gelynion a throdd yr Israeliaid eu sylw at adeiladu eu cartrefi eu hunain, gan anghofio’u hiraeth ym Mabilon am ‘ganu cân yr Arglwydd’ yn Seion.

            Ac os nad oedd hynny’n ddigon, roedd geiriau’r proffwydi’n dal i’w llethu. Cyn y gaethglud, yn ystod y gaethglud, ac yn awr ar ôl cyrraedd adref, roedden nhw’n parhau i’w hatgoffa am eu dyletswydd i Dduw. Mae Haggai’n eu ceryddu am adeiladu eu tai eu hunain yn lle parhau i adeiladu tŷ Dduw, tra bo Sechareia’n eu hannog i ailddechrau’r gwaith gan fod yna fwy nag adeilad yn y fantol. 

            Mae’r gwaith yn ailddechrau ond mae’r bobl yn siomedig gan nad yw’r deml mor ysblennydd â theml Solomon. Ond nid yr adeilad ei hun sy’n bwysig ond yn hytrach presenoldeb Duw ynddo lle mae’n cyfarfod â’r bobl. Os nad yw’n wych, mae’n arwydd o rywbeth mwy sydd eto i ddod i’r genedl. 

            Mae Haggai’n proffwydo y daw brenin o linach Sorobabel, llywodraethwr Jwda, ac mae Sechareia’n dweud wrth ‘ferch Seion’ a ‘merch Jerwsalem’ i lawenhau a bloeddio’n uchel gan fod ‘dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth’. (Sechareia 9:9) Bydd y brenin hwn yn dod i’r deml: Wele fi’n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o’m blaen; ac yn sydyn fe ddaw’r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i’w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod,” medd ARGLWYDD y Lluoedd (Malachi 3:1-2). A’i ogoniant ef fydd ei gogoniant hi, nid gwaith yr adeiladwyr, am mai ef yw’r Meseia.