Mae hanes a phrofiadau Israel, eu bendithion, eu dioddefiadau a’u gwaredigaeth, yn destun nifer o emynau, ond efallai nid llawer o garolau. Ond wrth inni agosáu at wireddu addewid Duw i Adda ynglŷn â had y wraig, ac i Abraham am y fendith a fyddai i holl dylwythau’r ddaear, rydym yn dychwelyd at destun cyfarwydd y carolau, sef y Meseia. Ac o fynd yn ôl i broffwydoliaethau Eseia cawn ein hatgoffa am yr holl fendithion fydd yn dod i’r greadigaeth gyfan drwy’r Meseia: Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i’r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus. (Eseia 11:10)

            Am Grist y Meseia mae Eseia’n sôn. Bydd ef yn codi ei faner a bydd pobl o bob cenedl yn dod ato, a lle bydd ef – yn y deml neu beidio – bydd ei drigfan yn ogoneddus am ei fod ef yno.

            Mae’r cyfeiriad at ‘wreiddyn Jesse’ yn ein hatgoffa am garol David Hughes, ‘Ar gyfer heddiw’r bore’:

                                    Ar gyfer heddiw’r bore 

                                         ’N faban bach, yn faban bach,

                                    Y ganwyd gwreiddyn Jesse,

                                         ’N faban bach.

            Ond pwy yw Jesse? A pham mae Eseia’n cyfeirio at Grist fel ‘gwreiddyn Jesse’? Ydych chi’n cofio Ruth, y ferch o wlad Moab? Jesse oedd ei hŵyr hi ac ef oedd tad Dafydd, y brenin roedd Duw wedi ei ddewis ar gyfer cenedl Israel. Yn ei linach ef byddai’r Meseia yn ymddangos. Ond sylwch, y gwreiddyn, sef Crist, ac nid Dafydd sy’n bwysig. Ef yw ‘Mab Dafydd’ o ran ei achau, ond ef hefyd yw ‘Arglwydd Dafydd’ (Mathew 22:41-46). Yn wir, fel Creawdwr ef a roddodd fywyd i Jesse a Dafydd yn y lle cyntaf.

            Mae’r llinyn arian yma wedi bod yn rhedeg yn glir drwy’r canrifoedd o Ardd Eden ymlaen. Roedd proffwydoliaethau a rhagluniau’n britho’r ysgrythurau ac fe ddylai’r rhai oedd wedi eu darllen neu wedi eu clywed fod wedi gallu eu gweld fel rhan o gynllun Duw i ddiogelu ‘had y wraig’ (Genesis 3:15). Byddai ‘had y wraig’ yn dod o hil Sem (Genesis 9:26); o linach Abraham (Genesis 12:1-3); o lwyth Jwda (Genesis 49:10); o deulu Jacob (Numeri 24:17); ac yn ddisgynnydd i Dafydd (Eseia 11:1; 1 Cronicl 17:11).

            Ond am nad oedden nhw’n gweld ffordd Duw, roedd yr Israeliaid am fynd eu ffordd eu hunain. Rho inni’n awr frenin i’n barnu, yr un fath â’r holl genhedloedd (1 Samuel 8:5), oedd eu gorchymyn i Samuel, ond roedd ganddynt frenin – Duw ei hun. Dyna pam mae ef yn dweud wrth Samuel, nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt. Samuel oedd arweinydd y genedl ond Duw oedd ei brenin.

            Ond mae Duw yn llawn gras ac amynedd, ac er ffolineb dyn, ‘trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben’. Ni all dim ei rwystro.

             Y cyfan sydd ar ôl i’w ddatgelu yn awr yw pryd ac ymhle bydd yr ‘hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon’ yn cael ei eni.