Mae’r adeg i wireddu’r holl addewidion am y Meseia y soniodd Moses a’r proffwydi amdano yn agosáu. Mae’r proffwyd Micha hyd yn oed wedi dweud ymhle y bydd ef yn cael ei eni. Efallai y gallai fod yn lle mwy urddasol, rhywle fyddai’n cydweddu’n well i frenin, na Bethlehem, ond o leiaf roedd y Brenin Dafydd wedi cael ei eni yno, felly mae hynny’n arwydd da. 

            A nawr mae’r genedl yn disgwyl amdano. Yn disgwyl, a disgwyl, a…

            Mae 400 mlynedd yn mynd heibio ers i’r proffwyd olaf siarad â’r bobl. Mae’r bobl yn disgwyl ac mae Duw yn dawel. 

            Y mae’r glaswellt yn crino, a’r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth. (Eseia 40:8)

            Mae’r byd yn newid ac mae Duw yn dawel. 

            Nid yn unig mae cenedlaethau wedi dod a mynd, mae breniniaethau ac ymerodraethau wedi codi a disgyn. A chaiff Israel ei dal yng nghanol y cyfan: ymerodraeth Persia yn cael ei disodli gan wlad Groeg ac Alecsander Fawr, ac yna’r Seluciaid yn rheoli ac yn goroesi gwrthryfel y Macabeaid cyn i’r Rhufeiniaid oresgyn a gwneud Herod yn frenin Jwda.

            Gwna’r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a’i gynlluniau dros yr holl genedlaethau. (Salm 33:10-11)

            Ac mae Duw yn dal yn dawel.

            Neu yn hytrach mae ef yn dal i weithio’n dawel. Mae ef yn dal i weithio’i ‘blan’. Efallai fod y byd yn newid ond nid yw Duw yn newid ac fe ddylai Israel wybod hynny.

            Nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni’r hyn a ddywedodd? (Numeri 23:19)

            Mae Duw yn eirwir ac yn cadw ei addewidion. Nid yn ôl ein hamserlen ni, efallai, ond yn sicr yn ôl ei amser perffaith ef. Roedd Israel wedi profi hynny yn hanes a thwf y genedl, fel y gwelsom. Addawyd mab i Abraham a Sara, addawyd gwaredu’r Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft, addawyd brenin iddynt. Gwireddwyd y rhain i gyd, ynghyd â nifer o addewidion eraill a oedd yn anogaethau i Israel, nid dim ond ar gyfer yr adegau cythryblus hynny, ond ar gyfer canrifoedd i ddod. Felly pam na fyddai ei addewidion am y Meseia hefyd yn cael eu cadw?