Rhagfyr 21ain – ‘Wele, Morwyn a Fydd Feichiog’
Mae bod goruwchnaturiol yn ymweld â merch ifanc ac yn dweud wrthi: “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” (Luc 1:30-33).
Dyw Mair ddim yn dwp nac yn hygoelus, ac mae’n amlwg yn gwybod sut mae babanod yn cael eu creu, gan ei bod yn dweud, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?” Mae’n ddiddorol sylwi fod Mair yn derbyn yn dawel neges syfrdanol yr angel am yr Un gaiff ei eni ohoni. Ond yn ddigon naturiol, mae hi am wybod sut y gall hyn ddigwydd, gan ei fod yn ymddangos yn amhosibl.
‘Paid ag ofni’, oedd geiriau cyntaf Gabriel iddi, ac mae’n rhaid eu bod wedi ei thawelu, gan nad yw’n colli ei phen er gwaetha’r sefyllfa a’r sgwrs afreal, sy’n mynd yn fwy swreal wrth y funud. Felly y byddai’n swnio i ni heddiw, ac mae’n siŵr mai felly roedd Mair yn meddwl hefyd.
Anghrediniaeth a meddwl bod geiriau Duw yn aml yn ymylu ar yr amhosibl oedd cyflwr naturiol yr Israeliaid, fel rydym wedi gweld droeon yn eu hanes. Ac mae’n siŵr bod hynny’n wir am y mwyafrif o bobl pan mae’n dod i bethau ysbrydol. Dyma eiriau merch ifanc arall, o Gymru y tro hwn, ryw ddeunaw canrif yn ddiweddarach:
Er mai cwbwl groes i natur
Yw fy llwybyr yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hynny’n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb-pryd;
Mae Ann Griffiths yn dweud bod ei bywyd Cristnogol, credu yn Nuw a chredu gair Duw, yn rhywbeth hollol groes i’w greddfau naturiol. Newid y greddfau naturiol hynny mae Duw yn ei wneud pan ddaw i mewn i fywyd anghredadun a’i gyflwyno i bethau goruwchnaturiol.
Yn ddiweddarach, yn ei hemyn o fawl a diolch i Dduw, mae Mair yn dangos ei bod hi hefyd yn gyfarwydd â hanes Israel, gan ei bod yn dweud am Dduw, Cynorthwyodd ef Israel ei was, gan ddwyn i’w gof ei drugaredd – fel y llefarodd wrth ein hynafiaid – ei drugaredd wrth Abraham a’i had yn dragywydd. (Luc 1:54-55) Roedd Duw wedi addo hyn, ac yn ei drugaredd mae ef yn awr yn gwireddu ei addewid. Trwyddi hi. Mae’r newyddion am feichiogrwydd a genedigaeth baban wastad yn rhywbeth cyffrous a hapus i deulu, yn enwedig ychydig cyn y Nadolig. Byddai’r enedigaeth yma yn amser o lawenydd mawr nid yn unig i’r teulu ond i’r holl fyd, gan mai’r baban yma sy’n rhoi rheswm ac ystyr i’r Nadolig.