Un angel a ddaeth at Mair i gyhoeddi ei rhan yng nghynllun Duw, ac un angel ddaeth at y bugeiliaid i gyhoeddi’r newyddion da am eni’r Meseia: A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o’u hamgylch; a daeth arswyd arnynt. Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl”. (Luc 2:9-10)

            Roedd ei gyfarchiad cyntaf ef yn union yr un fath â chyfarchiad cyntaf Gabriel i Mair: ‘Paid ag ofni, Mair.’ ‘Peidiwch ag ofni’, gan mae’n siŵr mai arswydo fyddai ymateb pawb i ymweliad tebyg. Ond mae ei eiriau yn eu tawelu, yn union fel petai Duw yn eu cofleidio a’u cysuro.

            A da o beth hynny, oherwydd yn syth ar ôl iddo orffen ei neges, ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.” Os oedd gweld un angel wedi eu harswydo, byddai gweld tyrfa o’r llu nefol yn sicr wedi dychryn y bugeiliaid.

            Ond cyn sôn am y bugeiliaid, beth am yr angylion, cenhadon y newyddion da i’r holl fyd? Beth, tybed, oedden nhw’n ei feddwl am yr hyn roedd Duw wedi ei ymddiried iddynt i’w gyhoeddi? 

            Roedden nhw wedi bod yn dystion i ymddygiad pobl ar y ddaear ac yn gweld eu pechadurusrwydd o gwymp Adda hyd ddyddiau Noa. A phan anfonodd Duw’r dilyw, pwy allai weld bai ar yr angylion os oeddynt yn meddwl bod dyn yn cael ei haeddiant.

            A thybed beth oeddynt yn ei feddwl pan ddechreuodd pobl amlhau ar y ddaear a’r rhain eto yn gwrthryfela yn erbyn Duw? A oeddynt yn meddwl mai dim ond mater o amser fyddai hi cyn y byddai Duw yn eu cosbi hwy hefyd? Neu efallai y tro hwn fe fyddai Duw yn anfon yr angylion gyda’u cleddyfau tanllyd i orfodi pobl i ufuddhau.

            Yng nghyflawniad yr amser fe anfonodd Duw’r angylion i’r ddaear. Ond nid i ddinistrio, yn hytrach i gyhoeddi ei gyfamod newydd i fyd pechadurus. A phwy all ddweud pa un o’r ddau gwmni yma oedd wedi ei synnu fwyaf: y bugeiliaid wrth glywed y fath newyddion, neu’r angylion a oedd yn ei gyhoeddi? Ac wrth i’r angylion weld rhagluniaeth Duw yn cael ei datgelu gam wrth gam ym mywyd a gweinidogaeth Crist, oni fydden nhw’n rhyfeddu at y ffordd roedd y Tri yn Un Duw wedi trefnu’r cyfan?

                                    Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,

                                      Rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd,

                                    Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth,

                                      A Rheolwr popeth sydd,

                                    Yn y preseb mewn cadachau,

                                      A heb le i roi’i ben i lawr,

                                    Eto disglair lu’r gogoniant

                                      ’N ei addoli’n Arglwydd mawr. 

Ac os oedd yr angylion yn rhyfeddu at hyn, oni ddylem ninnau ryfeddu llawer mwy, gan mai er ein mwyn ni y trefnwyd hyn i gyd? Nid er mwyn yr angylion y gadawodd Crist y nefoedd, ei ddarostwng ei hun, cymryd arno agwedd gwas a bod yn ufudd hyd angau’r groes. Nage, ond fel ein bod ni’n cael ein glanhau oddi wrth ein pechodau ac yn rhannu yn ei ogoniant ef yn y nefoedd fel yr oedd Duw wedi ei fwriadu o’r dechrau: Hysbysodd i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn unol â’r bwriad a arfaethodd yng Nghrist yng nghynllun cyflawniad yr amseroedd, sef dwyn yr holl greadigaeth i undod yng Nghrist, gan gynnwys pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear. (Effesiaid 1:9-10)