Er bod y Newyddion Da i’r holl fyd, dim ond criw bychan o fugeiliaid a glywodd gyhoeddiad yr angylion. Ond doedden nhw ddim yn gwybod hynny. Mae’n siŵr nad oedden nhw’n meddwl bod unrhyw beth arbennig amdanyn nhw a bod pawb arall wedi clywed y neges hefyd, gan ei bod ‘i’r holl bobl’. Ac os oedd pawb arall yn Effrata wedi clywed y neges, gwell iddynt frysio os oedden nhw am weld ‘yr un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb’ (Luc 2:12).

            Roedd hi’n ganol nos pan gychwynnodd y bugeiliaid am Fethlehem ond digon tebyg eu bod yn disgwyl i’r lle fod yn ferw gwyllt yn barod, fel diwrnod gŵyl, gyda phawb oedd o fewn cyrraedd i’r ddinas wedi gwneud eu ffordd yno i weld y Baban Iesu. Wrth gwrs, dim ond swyddogion crefyddol a gwleidyddol pwysicaf Jwda fyddai’n cael mynd i mewn i’r stabl i weld y baban, a dim ond rhyw gipolwg, o bell, o gefn y dorf, o gyrion tywylla’r ddinas a gâi’r bugeiliaid o’r adeilad lle roedd y mab bychan wedi ei eni, ond byddai hynny’n ddigon iddynt. Roedd y bugeiliaid yn gwybod eu lle yn y gymdeithas.  

            Ond nid yw safle cymdeithasol yn golygu dim i Dduw. A beth oedd yn disgwyl y bugeiliaid ar ôl cyrraedd Bethlehem? Gŵyl? Dathlu? Torfeydd o bobl yn llenwi’r strydoedd yn canu ac yn dawnsio?

            Nid ‘Swnllyd Nos’ yw enw’r garol. Ac nid ‘Draw yn nwndwr Bethlehem dref’ nac ‘O! swnllyd ddinas Bethlehem’ y byddwn ni’n ei ganu, ond yn hytrach “Tawel Nos”, “yn nhawelwch Bethlehem” ac “O! dawel ddinas Bethlehem”. Roedd y lle yn dawel. Neb i’w weld a dim sŵn i’w glywed yn unman. Roedd y byd wedi ei droi ar ei ben. Roedd Ail Berson y Drindod wedi ei eni yng nghyffelybiaeth dyn ond roedd Bethlehem yn dawel. 

            Roedd cyngor dirgel Duw i godi dyn yn dal, i raddau, yn un tawel. Fe allai fod wedi cyhoeddi’r Newyddion Da i’r holl fyd yn llythrennol drwy anfon sawl llu o angylion i’w bedwar ban. Neu fe allai fod wedi datgan y Newyddion Da fel roedd wedi dweud ‘Bydded goleuni!’, ar adeg creu’r ddaear, a byddai pawb drwy’r cread yn gwybod ar unwaith. Ond nid felly roedd hi. Nid felly y dewisodd Duw gyhoeddi’r Newyddion Da. Fe ddewisodd Duw yn hytrach ei wneud yn dawel i griw o bobl gyffredin wrth eu gwaith. 

            Ond o dipyn i beth fe fyddai Duw yn cyhoeddi i eraill y pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy’n ei garu. (1 Corinthiaid 2:9)