Rhagfyr 24ain – ‘Daw Seren Allan o Jacob’
Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel (Numeri 24:17), oedd rhan o broffwydoliaeth Balaam am ddyfodiad y Meseia. Gwireddwyd hynny pan anwyd Iesu ym Methlehem, ond arwyddodd seren arall hefyd ei ddyfodiad.
Seryddion, doethion, brenhinoedd, galwch nhw beth a fynnwch, ond dynion o’r dwyrain, cenedl-ddynion, oedd y rhain a ddaeth i lys Herod a gofyn, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.” (Mathew 2:1)
Os oedd y bugeiliaid wedi ‘gogoneddu a moli Duw’ ar ôl clywed y newyddion da am eni’r Meseia, gwahanol iawn oedd ymateb Herod a ‘Jerwsalem i gyd gydag ef’.
Mae’r ffaith fod yr offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn gallu ateb ymholiad Herod trwy gyfeirio’n syth at broffwydoliaeth Micha mai ym Methlehem y byddai’r Meseia yn cael ei eni yn dangos yn ddigon clir bod yr wybodaeth hon o fewn cyrraedd hawdd ac yn agored i bawb oedd yn dymuno gwybod ewyllys Duw. Ond nid oedd y rhai mewn awdurdod wedi talu llawer o sylw iddi. Roedd yn rhaid cael dieithriaid i’w dangos iddynt.
Nid yw’n glir pryd y gwelodd y doethion y seren gyntaf na beth a wnaeth iddynt ei dilyn. Mae’r Beibl yn dweud eu bod wedi teithio o’r dwyrain ond nid o ble yn y dwyrain. Efallai eu bod wedi dod o barthau Babilon ac yn gyfarwydd â Llyfr Daniel a gofnododd, bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill (Daniel 2:44), ac mai hynny oedd wedi eu harwain i astudio’r sêr a chwilio am ‘oleuni i’r cenhedloedd’. (Eseia 49:6)
Yn wahanol i’r bugeiliaid a gafodd eu synnu gan ddigwyddiadau’r nos, roedd y doethion yn gwybod bod rhywbeth rhyfeddol a phwysig ar fin digwydd ac wedi penderfynu chwilio amdano. Ond un peth yw chwilfrydedd dyn, peth arall yw cael eich arwain gan yr Ysbryd Glân. Gan fod Herod wedi gorchymyn lladd pob bachgen dan ddwy flwydd oed, mae’n bosibl bod y seryddion wedi bod yn dilyn y seren am yn agos i ddwy flynedd. neu ai dim ond ychydig wythnosau neu fisoedd cyn cyrraedd Jerwsalem roedden nhw wedi ei gweld hi? Pwy a ŵyr? Ond yn ymateb y bugeiliaid a’r doethion gwelwn sut mae Cristnogion ymhob oes wedi ymateb i’r Gwaredwr. Mae rhai’n cael profiad sydyn a dramatig ohono, ac fel y bugeiliaid yn gorfod ymateb ar unwaith, gadael eu gorchwylion ac ufuddhau i’w alwad. I eraill, cael rhyw gipolwg ar ei ogoniant i ddechrau ac yna’n araf dros amser a thaith hir drwy amryw droeon a thrafferthion y dônt ato. Y bugeiliaid distadl a’r seryddion pwysig o gefndiroedd a thraddodiadau gwahanol iawn, ond mae eu gweld nhw gyda’i gilydd wrth y preseb ar gardiau Nadolig yn dangos yn glir bod y newyddion da i bawb.