Fel arfer, 24 ffenest sydd ar galendr Adfent ac mae hynny’n ddealladwy gan mai’r cyfnod sy’n arwain i fyny at 25 Rhagfyr, y dyddiad rydym yn dathlu geni Iesu Grist, yw’r cyfnod Adfent. Felly ticio’r dyddiau i ffwrdd tuag at ddyfodiad Iesu Grist yw diben y calendr, rhywbeth inni droi ato wrth ddisgwyl dathlu ei ddyfodiad. 

            Ond a fyddech chi’n bodloni ar ddim ond edrych ymlaen at y Nadolig? Cynhyrfu’n lân, methu cysgu, breuddwydio am y diwrnod mawr, yr holl ddisgwyl ac yna… dim byd? Wrth gwrs na fyddech. Rhan fechan o’r hwyl yw’r edrych ymlaen o’i gymharu â’r diwrnod ei hun a mwynhau’r hyn fyddwn yn ei gael. 

            Mae’n siŵr y byddwch yn gweld eich plant neu eich wyrion yn agor eu anrhegion heddiw, a beth fydd eu hymateb? Difaterwch? Siom? Gweddol fodlon? Neu wrth eu bodd ac yn dangos llawenydd mawr?

            A dyna ddylai ein hymateb ni fod i newyddion da’r angylion, i addewid Duw i Abraham y byddai’n bendithio ‘holl dylwythau’r ddaear’, sef y cenhedloedd. Ni.

            Ar y naill law roedd geni Iesu Grist yn ddiwedd cyfnod a diwedd y cyfamod roedd Duw wedi ei wneud gyda Moses a chenedl Israel ar Fynydd Sinai. Ond mae ymgnawdoliad Iesu Grist hefyd yn ddechrau cyfnod newydd a chyfamod newydd rhwng Duw a dyn, nid dim ond yr Iddewon, ond ‘i’r holl bobl’.

            Yn nyddiau’r cyfamod cyntaf roedd Duw wedi siarad â’r Israeliaid trwy eu pobl nhw, ond nawr mae pethau’n newid. Dyma sut mae awdur y llythyr at yr Hebreaid yn disgrifio’r newid hwn: Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy’r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.(Hebreaid 1:1) 

            Mae Duw nawr, ‘yn y dyddiau olaf hyn’, yn siarad â ni trwy ei Fab, yr Immanuel, Duw gyda ni. Roedd emynwyr fel Dafydd Jones o Gaeo yn deall hyn:

                                    Wele, cawsom y Meseia,

                                      Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;

                                    Darfu i Moses a’r proffwydi

                                      Ddweud amdano cyn ei ddod:

                                    Iesu yw, gwir Fab Duw,

                                    Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

            Addewid am rywun i ddod oedd y Meseia i’r Israeliaid, ond nawr mae ef gyda ni, ac mae’n gofyn am ein hymateb.

            Ar ddiwedd y carolau plygain, ar ôl sôn am drefn Duw i achub pechaduriaid, am eni’r Gwaredwr a’i waith ar y ddaear, yn aml iawn ceir gwahoddiad i ddod at Iesu, i droi oddi wrth bethau gwag y byd a phleserau dros dro ein bywydau, ato ef. Ceir y gwahoddiad ym mhennill olaf ‘Ar gyfer heddiw’r bore’:

                                    Am hyn, bechadur, brysia,

                                      Fel yr wyt, fel yr wyt,

                                    I ‘mofyn am y Noddfa,

                                      Fel yr wyt.

                                    I ti’r agorwyd ffynnon

                                    A ylch dy glwyfau duon

                                    Fel eira gwyn yn Salmon,

                                      Fel yr wyt, fel yr wyt,

                                    Gan hynny, tyrd yn brydlon,

                                      Fel yr wyt.

            Ac ym mhennill olaf Carol y Swper: 

                        Mae heddiw’n ddydd cymod, a’r swper yn barod, 

                        A’r bwrdd wedi ei osod, O brysiwn!

                        Mae’r dwylo fu dan hoelion yn derbyn plant afradlon

                        I wlad y Ganaan nefol i wledda yn dragwyddol.

            Ac o ddod ato a chael maddeuant ein pechodau a chymodi ag ef, fe fydd gwledd dragwyddol yn ei gwmni. Nawr mae Duw gyda ni, ac yn y nefoedd fe fyddwn ni gydag ef yn mwynhau gwledd go iawn y Nadolig.