- 1
- 2
- 3
- 4
- …
- 7
- Go to the next page
Henuriad
Cafodd Prysor ei eni yn y Bala ond mae ei wreiddiau teuluol yn ddwfn yng Ngheredigion, lle cafodd fagu, o chwech oed, yn Goginan, ac yn hwyrach yn ei arddegau, yn Aberteifi. Mae’n briod â Carys ac mae ganddynt dri o blant.
Mae yn gyn-athro, wedi dysgu mewn tair ysgol gynradd ar draws Ceredigion, ac mae bellach yn darlithio yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Henuriad
Daw Gwyn yn wreiddiol o Ynys-y-bŵl. Mae ganddo ef a’i wraig Glenys dri o blant a phedwar o wyrion. Mae Gwyn a Glenys wedi bod yn gysylltiedig â’r Eglwys o’r cychwyn – bu’r ddau’n bresennol ar y Sul cyntaf oll.
Bu Gwyn yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol am flynyddoedd, a rhwng 1997-2011 bu’n darlithio ar Hanes yr Eglwys yng Ngholeg Diwinyddol Efengylaidd Cymru, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr.
Gweinidog
Mae Derrick yn wreiddiol o Lanelli, yn un o dri brawd sydd i gyd bellach yn gwneud gwaith Cristnogol amrywiol. Daeth Derrick yn Gristion yn 15 oed. Mae’n briod a Llio, ac mae ganddynt dair o ferched – Lois, Lydia a Lea – ac un mab – Andreas.
Aeth i’r coleg ym Mangor, a bu’n rhedeg siop lyfrau Cristnogol yno, cyn mynd yn weinidog cynorthwyol yn Eglwys Efengylaidd Cildwrn, Llangefni. Bu am 13 ‘mlynedd yn Eglwys Efengylaidd Saesneg y Fron, Penrhyndeudraeth, cyn symud i Aberystwyth yn 2007. Un o’i ddiddordebau annisgwyl yw jyglo.
Rydym yn falch o gydnabod ein perthynas â Christnogion eraill ledled Cymru a thrwy’r byd. Ond ein dymniad yw addoli a gwasanaethu’r Arglwydd Iesu Grist yma yn Aberystwyth a’r cylch, a hynny drwy’r Gymraeg.