Rhagfyr 19eg – ‘Yn Fechan Ymhlith Miloedd’
Mae llinyn arian addewidion Duw wedi bod yn gwau trwy’r canrifoedd trwy hanes yr Israeliaid, ac yn awr yng nghyflawnder yr amser maent yn arwain i un lle arbennig ar amser penodol.
Mae’r brenin yn dod i ryddhau ei bobl ac i ddial ar eu gelynion. Onid oedd Eseia wedi disgrifio sut y byddai’r brenin yn dial ar eu gelynion: Pwy yw hwn sy’n dod o Edom, yn dod o Bosra a’i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a’i gerddediad yn llawn o nerth? “Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu.” Pam y mae dy wisg yn goch, a’th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf? “Bûm yn sathru’r grawnwin fy hunan, ac nid oedd neb o’r bobl gyda mi; sethrais hwy yn fy llid, a’u mathru yn fy nicter. Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad nes cochi fy ngwisgoedd i gyd; oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial, a daeth fy mlwyddyn i waredu. (Eseia 63:1-4)
Gwyliwch allan, bobl Edom a Babilon: daeth eich awr! Dyma frenin yn wir! Bydd yn urddasol a chadarn, ac mae’n siŵr y bydd yn byw mewn palas gyda byddin gref i’w amddiffyn ac ufuddhau i’w orchmynion.
Ac ym mha ddinas, ym mha balas, bydd y brenin yma’n cael ei eni? Mae’n rhaid fod gan un o’r proffwydi yr ateb:
Ond ti, Bethlehem Effrata, sy’n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a’i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. (Micha 5:2)
Bethlehem? Na, does bosib. Mae sawl cyfeiriad at Bethlehem, neu Effrath neu Effrata, yn yr ysgrythurau ac yno y ganwyd Dafydd. Ond roedd pwysigrwydd Bethlehem wedi cilio dros y canrifoedd a bellach doedd hi ddim yn lle o bwys. Efallai bod brenin wedi cael ei eni yno unwaith ond roedd llefydd pwysicach, teilyngach i’w cael erbyn hyn. Ond,
Ni cheisiodd urddas palas Peilat,
Na gorwych lys yr archoffeiriad,
I lanio porth yr esgoreiddiad,
Ond preseb, anfad;
Nid oedd wrth blan y cyngor
Na sgarlad main, na phorffor,
Na phalas gwych, i’r sanctaidd bach,
Ond cadach ac isel-gor.
Rywbryd rhwng 750 a 686 CC roedd Micha’n byw yn Jwda, tua’r un cyfnod ag Eseia, ac mae proffwydoliaethau’r ddau yn debyg. Ond nid yw geiriau Eseia am y forwyn yn beichiogi, na geiriau Micha mai ym Methlehem y byddai’n rhoi genedigaeth, yn cael eu gwireddu am dros bum can mlynedd arall. Digon o amser i bobl oedd yn ddiarhebol am anwybyddu geiriau Duw a’r proffwydi eu hanghofio. Ond nid yw Duw yn anghofio dim. Mae wedi addo. Ac mae’n siŵr o gadw ei addewid.