1. Cyflwyniad
Pa ŵyl sy fwyaf poblogaidd, y Nadolig neu’r Pasg? Pe baech chi’n gorfod dewis rhwng y ddwy, p’un fyddech chi’n ei dewis?
Cwestiynau annheg, efallai, gan fod y ddwy yn wyliau mor wahanol ar adegau mor wahanol o’r flwyddyn; ond fe fentraf ddweud mai’r Nadolig fyddai ar frig polau piniwn ein hoes ni. Ond gadewch inni adael ein hoes faterol a mynd at y llyfr sy’n cyfeirio at y Nadolig cyntaf a’r Pasg cyntaf, sef y Beibl.
Y Pasg yw’r ŵyl hynaf o’r ddwy. Cafodd ei sefydlu gan Dduw pan oedd cenedl Israel yn gaeth yn yr Aifft: Yna galwodd Moses ynghyd holl henuriaid Israel, a dweud wrthynt, ‘Dewiswch yr ŵyn ar gyfer eich teuluoedd, a lladdwch oen y Pasg . . . a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws . . .’ A gwaed oen y Pasg fyddai’n amddiffyn y bobl pan fyddai’r Arglwydd yn tramwyo drwy’r Aifft ac yn taro’r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i’r Dinistrydd ddod i mewn i’ch tai i’ch difa (Exodus 12:21-23).
Pan ddown at y Nadolig, er mor bwysig a rhyfeddol oedd dyfodiad Iesu Grist i’n byd, mae’n ddiddorol nodi mai dim ond Mathew a Luc sy’n nodi amgylchiadau ei eni. Does dim sôn o gwbl am y geni gan Marc nac Ioan. Yn eu tyb nhw, mae’n amlwg fod ei weinidogaeth yn bwysicach na’i enedigaeth.
Ar ben hynny, dim ond dwy bennod yr un a roddir gan Mathew a Luc i gofnodi amgylchiadau cenhedlu a geni Iesu Grist, ynghyd â chip sydyn ar ei fywyd cynnar. Ond wrth inni droi at ddyddiau olaf Iesu a’r Pasg, mae’r darlun yn hollol wahanol. Mae’r pedair Efengyl yn treulio 85 pennod i gyd yn cofnodi rhyw dair blynedd o’i weinidogaeth gyhoeddus; ac mae dros draean o’r penodau hynny – 29 ohonynt – yn canolbwyntio ar 24 awr olaf ei fywyd a’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’i groeshoelio ar ddydd Gwener y Groglith.
Mae’n amlwg felly nad oedd amheuaeth ym meddyliau awduron yr Efengylau p’un ai’r Nadolig neu’r Pasg oedd bwysicaf. Deallent yn glir fod y Nadolig yn cyfeirio ymlaen at y Pasg. Do, ganwyd Iesu Grist i’n byd – er mawr lawenydd inni. Ond diben ei ymgnawdoliad oedd marw ar Galfaria. Mae’n wir na fyddai yna ddim Pasg heb y Nadolig; ond yn bwysicach, ni fyddai pwynt i’r Nadolig heb y Pasg. Y Pasg yw canolbwynt holl drefn achubol a rhagluniaethol Duw, gan mai ar y groes y cwblheir mewn modd rhyfeddol ei gynllun ‘i achub gwael golledig euog ddyn’.
Os ydych am ddilyn darlleniadau am yr Adfent a’r Nadolig: