Mathew 21:1-11; Marc 11:1-11; Luc 19:28-44; Ioan 12:12-19.

Mae wythnos y Pasg yn dechrau gyda hanes Iesu Grist yn mynd i mewn i Jerwsalem ar y dydd Sul, drannoeth y Saboth Iddewig. Fel miloedd o Iddewon eraill, mynd yno i ddathlu’r Pasg y mae’r disgyblion; ond mae Iesu’n gwybod fod rhywbeth llawer mwy na hynny o’i flaen. Hwn yw ei ymweliad olaf â’r ddinas, ei Basg olaf ar y ddaear. Bydd ei farwolaeth ymhen ychydig ddyddiau’n rhoi arwyddocâd newydd i’r ŵyl, ac yn newid hanes y byd am byth.

Mae holl ddigwyddiadau’r dyddiau nesaf yn rhan o gynllun manwl Duw ers ‘Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen’. Mae pob cam a chymal yn bwysig, er mor ddibwys y gallant ymddangos: Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i’r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith’ (Mathew 21:1-3). Ac nid rhywbeth mympwyol yw’r ffaith i Iesu eistedd ar ebol asyn. Fel yr eglura Mathew 21:4-5, gan ddyfynnu Eseia 62:11 a Sechareia 9:9, Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy’r proffwyd: ‘Dywedwch wrth ferch Seion, “Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.”’

Byddai brenin buddugoliaethus fel arfer yn eistedd ar geffyl mawr, yn llawn rhwysg a rhodres. Nid felly Iesu Grist. Roedd Eseia wedi proffwydo mai ‘Gwas dioddefus’ fyddai’r Meseia, Un a fyddai’n dioddef dros ei bobl: ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng. . . . Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i’w ffordd ei hun; a rhoes yr Arglwydd arno ef ein beiau ni i gyd (Eseia 53:4, 6).

Wrth groesawu Iesu, mae’r tyrfaoedd yn llawenhau: Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd (Mathew 21:8). Canant “Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel” (Ioan 12:13), gan ddyfynnu Salm 118:25-26, salm sy’n dathlu dyfodiad y Meseia.

Ie, llawenhau a dathlu. Mae’r Meseia wedi dod. Ond Meseia arbennig yw hwn. Gwas dioddefus Duw sydd yma.  Un sy’n marchogaeth yn ostyngedig ar ebol asyn. A chyn diwedd yr wythnos, bydd Duw yn rhoi arno ef ein beiau ni i gyd.