Mathew 28:16-20; Marc 16:14-20; Luc 24:50-53; Ioan 20:24 – 21:25; Actau 1:1-11; 9:1-9; 1 Corinthiaid 15:3-8.

Gwelwyd yr Iesu byw gan ei ddisgyblion droeon wedi Sul y Pasg:

  • Y Sul canlynol, ymddangosodd iddynt eto, a Thomas yn eu plith. 
  • Daeth at saith ohonynt wrth Fôr Galilea.
  • Ymddangosodd i’r un disgybl ar ddeg ar fynydd yng Ngalilea.
  • Gwelwyd ef gan dros 500 ar unwaith (1 Corinthiaid 15:6). 
  • Ymddangosodd i’w hanner brawd Iago (1 Corinthiaid 15:7).
  • Bu gyda’r disgyblion eto (1 Corinthiaid 15:7). Mae’n bosibl mai dyma achlysur ei esgyniad i’r nefoedd (Actau 1:6-11).
  • Ymddangosodd i Paul, gan chwyldroi ei fywyd (Actau 9:1-9).

Ble mae Crist yn awr? Ddeugain diwrnod wedi’r Pasg, fe’i dygwyd i fyny i’r nef (Luc 24:51). Dyma bennill arall o emyn Robert Owen:

      Mae rhan gyntaf y pennill yn adleisio 1 Pedr 3:22: Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i’r nef, ar ddeheulaw Duw, a’r angylion a’r awdurdodau a’r galluoedd wedi eu darostwng iddo. Mae’r Tad wedi dyrchafu’r Mab, a’r Mab yn derbyn yr addoliad mae’n ei haeddu oherwydd iddo gwblhau gwaith iachawdwriaeth drwy ei ufudd-dod hyd angau: Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn gallu, cyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, gogoniant a mawl (Datguddiad 5:12). Bellach rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear (Mathew 28:18).

       Ac mae ail ran y pennill uchod yn dweud wrthym fod ei weinidogaeth yn parhau yn y nef. Crist Iesu . . . sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd hefyd yn ymbil trosom (Rhufeiniaid 8:34), gan gyflwyno ei bobl a’u hanghenion yn gyson i sylw’r Tad. Drwy’r Ysbryd Glân mae’n dal i geisio ac i gadw’r rhai y bu farw drostynt, a’u dwyn yn ddiogel ato yn y nef ar ddiwedd eu taith ar y ddaear. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac . . . mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddwch chwithau hefyd (Ioan 14:2-3; William Morgan).  

      A ryw ddydd daw’r Crist buddugoliaethus yn ôl i’r ddaear hon mewn gogoniant i gau pen y mwdwl, fel petai. Bryd hynny caiff cyrff y meirw eu hatgyfodi; bydd Iesu ei hun yn barnu pawb; bydd gwahanu tragwyddol rhwng y rhai sydd wedi credu ynddo a’r rhai sydd wedi ei wrthod; a sefydlir nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu (2 Pedr 3:13).

      Ac yng ngoleuni hyn i gyd, gall pawb sy’n caru Iesu Grist edrych ymlaen yn llawen a hyderus gyda Williams Pantycelyn:

AMEN!