9. Dydd Sul yr Atgyfodiad
Mathew 28:1-15; Marc 16:1-13; Luc 24:1-49; Ioan 20:1-23.
Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma (Marc 16:6).
Dyna eiriau gwefreiddiol yr angel i’r gwragedd wrth y bedd gwag ar y bore Sul. Mae Iesu’n fyw! Fel hyn mae’n sôn amdano’i hun wrth yr Apostol Ioan: Myfi yw’r cyntaf a’r olaf, a’r Un byw; bûm farw, ac wele, yr wyf yn fyw byth bythoedd (Datguddiad 1:17-18). Ac mae Paul am ein sicrhau nad rhyw dric cyfrwys yw’r atgyfodiad hwn: traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau (1 Corinthiaid 15:3-4). Mae’r cyfan yn unol â Gair Duw.
Beth yn union sy’n digwydd ar Sul y Pasg?
- Yn gynnar, daeargryn mawr, angel yn symud y maen o flaen y bedd, a’r gwarchodwyr yn ffoi.
- Wrth y bedd, angel yn hysbysu’r gwragedd fod Iesu wedi atgyfodi.
- Iesu’n ymddangos i’r gwragedd ar eu ffordd at y disgyblion.
- Talu’r gwarchodwyr i honni mai’r disgyblion a ddygodd y corff.
- Wedi rhedeg at y bedd, Pedr ac Ioan yn gweld ei fod yn wag.
- Mair Magdalen yn mynd yn ôl at y bedd, ac yn gweld Iesu.
- Yn ddiweddarach, Iesu’n cerdded i Emaus gyda dau o’i ddilynwyr.
- Iesu’n ymddangos i Pedr.
- Iesu’n ymddangos i’r disgyblion i gyd – ac eithrio Thomas.
Beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Er llawenydd i bob Cristion, cyhoedda fod aberth cymod Iesu Grist ar y groes yn cwrdd â holl ofynion cyfiawnder y Tad. Yng ngeiriau cofiadwy William Williams (‘Gwilym Cyfeiliog’),
Dengys ei fodlonrwydd drwy godi ei Fab o’r bedd. Ac wrth wneud hynny mae’n datgan ei fod yn cyfrif cyfiawnder Crist i bawb sy’n credu ynddo: Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a’i gyfodi i’n cyfiawnhau ni (Rhufeiniaid 4:25).
Gwelwn hefyd fod gennym Waredwr byw. Nid addoli person marw a wnawn, na rhyw athroniaeth chwaith, ond person byw. Un sydd wedi trechu pechod ac angau a Satan. Un y gallwn ei adnabod a’i garu. Un galluog a grymus sydd ar waith heddiw, yn rhoi maddeuant, bywyd, a gobaith i’w ddilynwyr. ‘Gwas Dioddefus’ sydd bellach yn Frenin buddugoliaethus.
Dyma ymateb Robert Owen (‘Eryron Gwyllt Walia’) i atgyfodiad Iesu:
Gallwn ganu’r geiriau hyn yn llawen ar Sul y Pasg. Yn wir, gallwn eu canu’n llawen bob Sul, gan fod Dydd yr Arglwydd yn ein hatgoffa am atgyfodiad rhyfeddol Iesu o’r bedd. A gallwn eu canu’n llawen bob dydd o’n hoes: mae Iesu Grist yn fyw!