Mathew 21:23 – 25:46; Marc 11:27 – 13:37; Luc 20:1 – 21:38; Ioan 12:20–50.

Ar ddydd Mawrth mae Iesu a’r disgyblion yn dychwelyd i Jerwsalem a’r deml. Yn lle rhyfeddu at ei neges, mae’r arweinwyr crefyddol â’u bryd ar gwestiynu dilysrwydd ei weinidogaeth: ‘Trwy ba awdurdod yr wyt ti’n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti’r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?’ (Marc 11:28).

Y ‘pethau hyn’ yw glanhau’r deml, cyflawni gwyrthiau iacháu (Mathew 21:14), a dysgu’r bobl yno (Luc 19:47). Mae’n drist dod i’r casgliad nad addoli Duw sy’n ganolog i ddathliadau’r Pasg ym marn yr awdurdodau. Tybiant mai dim ond gyda nhw y mae’r awdurdod i benderfynu pwy a gaiff wneud beth yn y deml – nid rhyw grwydryn a’i garidýms o ddilynwyr. 

Ond camgymeriad ar eu rhan yw pwyso ar eu hawdurdod nhw. Os oes gan unrhyw un awdurdod, Iesu yw hwnnw: Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll (Colosiaid 1:16–17). Dyw’r gair ‘awdurdod’ ddim yn dod yn agos at ddisgrifio safle Iesu yn y greadigaeth.  

Mae Iesu’n ateb eu cwestiwn am ffynhonnell ei awdurdod trwy ofyn iddynt o ble y cafodd Ioan Fedyddiwr ei awdurdod ef. Pe bai’r arweinwyr yn gwadu mai oddi wrth Dduw y daeth awdurdod Ioan, wynebant anniddigrwydd y dorf, sy’n credu mai proffwyd oedd Ioan. Ond o dderbyn awdurdod nefol Ioan, bydd yn rhaid iddynt gydnabod fod gan Iesu awdurdod uwch fyth, gan i Ioan gyfeirio at Iesu fel ‘Oen Duw’ (Ioan 1:29) – teitl arwyddocaol iawn adeg y Pasg – a ‘Mab Duw’ (Ioan 1:34).

Drwy gyfres o ddamhegion mae Iesu’n herio’r awdurdodau crefyddol. Ym Mathew 21:42 dyfynna Salm 118:22-23 i danlinellu y bydd Duw yn ei anrhydeddu er eu bod nhw’n ei wrthod: Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfeddol yn ein golwg ni. Yn lle ymostwng a chredu, daliant i geisio ei faglu, a datgela Iesu ei awdurdod a’i ddoethineb wrth eu hateb. Mae’r dadleuon yn denu torf o wrandawyr, ac mae Iesu’n troi atynt gan ddangos sut mae’r arweinwyr yn camddefnyddio’u hawdurdod ac yn gweithredu’n groes i ewyllys Duw. 

Wedi gadael y deml mae Iesu a’r disgyblion yn mynd i Fynydd yr Olewydd y tu allan i Jerwsalem. Wrth edrych i lawr arni, proffwyda Iesu ddinistr y ddinas a hefyd – yn y pen draw – ddiwedd yr oes. Mae’n siŵr fod ei brofiad y diwrnod hwnnw wedi ei dristáu. Er i Dduw fendithio’r Iddewon mor helaeth, mae eu harweinwyr ysbrydol wedi gosod eu hunan-les o flaen lles y bobl ac ewyllys Duw. Ac oherwydd hynny mae barn ddwyfol yn anochel.