Mathew 27:62-66; Luc 23:56.

Wedi digwyddiadau ysgytwol dydd Gwener, mae’r Sadwrn yn rhyfedd o dawel. Mae rhai o’r gwragedd wedi paratoi peraroglau er mwyn eneinio corff Iesu, ond ar y Saboth buont yn gorffwys yn ôl y gorchymyn (Luc 23:56).

Byddai’n dda meddwl fod y disgyblion eraill yn manteisio ar y Saboth i ystyried yn ddwys yr hyn sydd wedi digwydd, gan gwbl gredu y caiff Iesu ei atgyfodi yn unol â’i addewid (Mathew 16:21; 17:23; 20:19). Ond nid dyna’r argraff a gawn ar dudalennau’r Beibl. Roeddynt i gyd wedi ffoi pan restiwyd Iesu (Marc 14:50). Ac ar y Sul maen nhw’n dal i fyw mewn ofn: yr oedd y drysau wedi eu cloi lle’r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni’r Iddewon (Ioan 20:19). Criw bychan digalon a diobaith ydynt ar y Sadwrn. Ond o’r Sul ymlaen gwelwn newid chwyldroadol ynddynt. Pam? Am eu bod yn gwybod i sicrwydd fod Iesu Grist yn fyw. 

Mae rhywbeth yn poeni’r awdurdodau Iddewig hefyd ar y Saboth: Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad [ar gyfer y Saboth] daeth y prif offeiriaid a’r Phariseaid ynghyd at Pilat a dweud, ‘Syr, daeth i’n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto’n fyw wedi dweud, “Ar ôl tridiau fe’m cyfodir.” Felly rho orchymyn i’r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i’w ddisgyblion ddod a’i ladrata a dweud wrth y bobl, “Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.”’ (Mathew 27:62-64). Cânt ganiatâd i osod gwarchodlu wrth y bedd. Ond yn rhyfeddol iawn, bydd y gwarchodwyr yn gyfrwng i gadarnhau realiti atgyfodiad Iesu. Gan eu bod yn rhwystro’r disgyblion rhag dwyn ei gorff, yr unig esboniad am y bedd gwag yw ei atgyfodiad grymus, gyda’r gwarchodwyr mewn ofn a dychryn (Mathew 28:1-4).

A beth am Iesu ei hun ar y Sadwrn? Ar sail cymal yng Nghredo’r Apostolion, tybia rhai iddo ‘ddisgyn i hades’ (hynny yw, lle’r meirw) gan gyhoeddi yno ei fuddugoliaeth. Ar y cyfan mae’r dystiolaeth feiblaidd dros hyn yn brin ac yn destun dadl. Yr hyn sy’n sicr yw i enaid Iesu fynd yn syth at Dduw wrth farw; fel y dywedodd wrth y lleidr ar groes yn ei ymyl, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys (Luc 23:43). O ran ei gorff, fe’i claddwyd mewn bedd. Mae adlais yma o’r creu; fel y gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd wedi gwaith mawr creu’r byd (Genesis 2:1-3), felly y gorffwysa corff Iesu ar y seithfed dydd wedi’r holl ddioddefaint wrth gwblhau gwaith iachawdwriaeth. Ac mae yma hefyd yr arwydd olaf o’i ymddarostyngiad ar y ddaear, wrth i’w gorff aros yn farw ar hyd y dydd.

Ond ni fydd ei ymddarostyngiad yn para’n hir. Ar ôl dydd Sadwrn daw dydd Sul . . .